Skip to main content
Banner image for Janet Finch-Saunders MS/AS

Janet Finch-Saunders MS/AS

ABERCONWY

Main navigation

  • Home/Hafan
  • Janet
  • News/Newyddion
  • Senedd Cymru
  • Contact/Manylion Cyswllt

Ymweliad â byd rhyfeddol gwlân lleol yn tynnu sylw at y cariad cynyddol at wlân Cymru

  • Tweet
Friday, 20 November, 2020
Janet Finch-Saunders MS

Heddiw (20 Tachwedd), mae Janet Finch-Saunders AS - Aelod o’r Senedd dros Aberconwy - wedi ymweld ag Ewe Felty Thing yn Llandudno, fel rhan o’i hymgyrch Addewid Gwlân Cymru. Daw’r ymweliad wrth i Sadwrn Busnesau Bach 2020 agosáu. Agorwyd yn siop yn 2018 gan Nikki Small ac mae’n gwerthu gwlân o bob math ac o bob cwr o Ynysoedd Prydain.

Fel Cadeirydd y Gynghrair Gwehyddion, Troellwyr a Lliwyddion lleol, bu Nikki yn trafod gyda Janet ei phryderon am ffermio, cael gafael ar wlân, ei baratoi a’i gyflenwad. Fel arfer, mae’r siop yn cynnal sawl sesiwn hyfforddi a grwpiau ‘crefft a sgwrs’ ac mae Nikki’n gobeithio sefydlu platfform cwrs celf a chrefft ar-lein, Craftucation, yn sgil y pandemig presennol i addysgu pobl sydd am ddysgu neu sydd am loywi eu sgiliau.

Yn trafod ei hymweliad, dywedodd Janet:

“Am siop grefftau hyfryd ac unigryw yw Ewe Felty Things! Hoffwn ddiolch o waelod calon i Nikki am roi o’i hamser i ddangos yr eitemau hyfryd y mae’n eu cynhyrchu, ynghyd â mynd â mi drwy’r deunyddiau crefft a dillad eraill sydd ar gael yn y siop leol wych hon.

“Fel Cadeirydd y Gynghrair Gwehyddion, Troellwyr a Lliwyddion lleol, bu Nikki’n sôn am ei anhawster i gael gafael ar wlân Cymreig i gwsmeriaid, sy’n gallu bod yn arw yn aml ac felly’n gwneud deunydd inswleiddio gwych ar gyfer carpedi. Dywedodd fod nifer o gwsmeriaid yn dod ati’n arbennig i gael gafael ar y deunydd lleol hwn.

“Mae’r ymgyrch Addewid Gwlân Cymreig yn ceisio hyrwyddo’r defnydd o’r ffeibr naturiol gwych hwn ar bob lefel ac felly rwy’n croesawu gwaith Nikki wrth iddi geisio annog ei ddefnydd ymhlith selogion. Dangosodd ein sgwrs bod awydd amlwg gan grefftwyr i ddefnyddio’r deunydd hwn. Sy’n galonogol yn ystod yr her unigryw hon i’r diwydiant.

"Mae'r pandemig wedi golygu bod llawer o fusnesau bach wedi gorfod arallgyfeirio eu gweithgareddau ac mae'r newyddion bod Nikki am sefydlu platfform cwrs celf a chrefft ar-lein, Craftucation, yn ddim ond un enghraifft wych o'r ysbryd entrepreneuraidd lleol sy’n parhau. Rwy’n annog crefftwyr lleol i arfogi’u hunain â’u nodwyddau a chefnogi'r rhyfeddod gwlanog lleol hwn!"

DIWEDD

Nodiadau i Olygyddion:

· Gallwch ymweld â ni yn Ewe Felty Thing yn 22 Stryd Madog, Llandudno, LL30 2TL. Gallwch ffonio Nikki ar 01492 878510. Am ragor o wybodaeth, ac am y siop ar-lein, ewch i www.ewefeltything.co.uk.

Ffoto: Janet Finch-Saunders AS a Nikki Small

  • Local News

You may also be interested in

Janet

First Minister Urged to Keep to his word and Make Business Support “Immediately available”

Wednesday, 12 May, 2021

Janet Finch-Saunders, Member of the Senedd for Aberconwy, has written to Mark Drakeford MS, First Minister, urging him to keep to his word and make business support immediately available.

 

Show only

  • Articles
  • Assembly News
  • Local News
  • Media
  • Opinions
  • Senedd News
  • Speeches
  • Westminster News

Janet Finch-Saunders MS/AS Aberconwy

Footer

  • About RSS
  • Accessibility
  • Cookies
  • Privacy
  • About/Am Janet Finch-Saunders
  • Polisi Diogelu Data a Phreifatrwydd
Promoted by Mostyn Jones on behalf of Janet Finch-Saunders, both of 29 Madoc Street, Llandudno, LL30 2TL

Neither the Welsh Parliament, nor Janet Finch-Saunders are responsible for the content of external links or websites. The costs of this website have been met by the Senedd Commission from public funds | Nid yw Senedd Cymru na Janet Finch Saunders yn gyfrifol am gynnwys lincs na gwefannau allanol. Mae Comisiwn y Senedd wedi talu costau'r wefan hon o arian cyhoeddus.

Copyright 2021 Janet Finch-Saunders MS/AS Aberconwy. All rights reserved.
Powered by Bluetree