Ffoto: Janet Finch-Saunders MS/AS, Cllr Greg Robbins (Cabinet Member), Cllr Antony Bertola, Cllr Francis Davies, and Cllr M. A. Pearce. Also in attendance were members of the Friends of Queen’s Park.
Mae'r Aelod o’r Senedd dros Aberconwy – Janet Finch-Saunders AS – wedi cynnal ymweliad safle (gan gadw pellter cymdeithasol) â Queen's Road, Craig-y-Don, i drafod pa fesurau gostegu traffig y gellir eu cyflwyno i sicrhau diogelwch cerddwyr ymhellach. Roedd cynghorwyr, trigolion a swyddogion y Cyngor hefyd yn bresennol.
Mae llawer o'r trigolion wedi poeni ers tro byd am oryrru ar hyd Queen's Road. Dywed Mrs Finch-Saunders y dylai unrhyw newidiadau arfaethedig i wella diogelwch ar y ffyrdd "adlewyrchu'r defnydd cynyddol o Barc Craig-y-Don, yn dilyn ymgyrch lwyddiannus a hirsefydlog i fuddsoddi mewn offer maes chwarae."
Wrth sôn am y cyfarfod, dywedodd Janet:
“Wedi ymgyrch lwyddiannus i gynyddu buddsoddiad yn ardal chwarae Craig-y-Don, mae'r broblem traffig lleol yn achosi risg wirioneddol i ddiogelwch plant bach. Mae cyflymder cerbydau sy'n defnyddio Queen's Road wedi bod yn destun pryder allweddol ers blynyddoedd lawer, gyda thrigolion yn dweud wrthyf eu bod nhw'n arswydo o feddwl am groesi'r lôn.
“Queen's Road yw un o'r prif lwybrau i'n promenâd byd-enwog a busnesau lleol gwych. O ystyried pwysigrwydd strategol y briffordd, sy'n rhedeg drwy galon ein cymuned, nid wyf yn synnu bod trigolion yn poeni am ddiogelwch cerddwyr.
“Roedd yr ymweliad safle hwn, ochr yn ochr â chynghorwyr lleol a swyddogion y Cyngor, yn gam cyntaf pwysig a chadarnhaol tuag at wireddu newidiadau angenrheidiol yn y tymor hwy. Ond mae damwain ddiweddar ar y briffordd wedi'n hysgogi i sicrhau bod camau mwy uniongyrchol a gweladwy yn cael eu cymryd hefyd.
“Rwyf wedi meddwl ers tro byd bod rhaid i unrhyw fuddsoddiad arfaethedig i Queen's Road adlewyrchu'r defnydd cynyddol o'r parc lleol rhagorol, sydd dan ofal arbennig Cyfeillion y Parc. Bu aelodau'r grŵp hwn, fel yr Is-gyrnol Jeff Wright MBE, yn gweithio'n ddiflino i gynnal a chadw'r llecyn gwyrdd croesawgar hwn.
“Hoffwn ddiolch yn ddiffuant i'r grŵp gweithredu lleol gwych hwn am helpu i bwyso am y gwelliannau ffyrdd lleol hyn, ynghyd â'r plant ysgol sydd wedi cyfrannu at ganolbwynt carreg newydd gwych sy'n diolch o galon i staff gwych y gwasanaeth iechyd am eu hymdrechion gydol y pandemig.”
DIWEDD