Skip to main content
Banner image for Janet Finch-Saunders MS/AS

Janet Finch-Saunders MS/AS

ABERCONWY

Main navigation

  • Home/Hafan
  • Janet
  • News/Newyddion
  • Senedd Cymru
  • Contact/Manylion Cyswllt

“Yr amser delfrydol i ysbrydoli gwell gweithgarwch corfforol”

  • Tweet
Thursday, 21 November, 2019
Senedd

Gan fod Cymru wedi gorffen yn bedwerydd yng Nghwpan Rygbi’r Byd, mae Janet Finch-Saunders, Aelod Cynulliad Aberconwy, a Gweinidog yr Wrthblaid dros Ofal Cymdeithasol, Plant, Pobl Ifanc a Phobl Hŷn, wedi galw am ymdrech fawr i annog unigolion i wneud gweithgarwch corfforol. Mae hyn yn dilyn y canfyddiad bod canran yr oedolion yng Nghymru sy’n gwneud llai na 30 munud o ymarfer corff wedi gostwng ers 2016-17, er na fu unrhyw gynnydd yn y nifer sy’n gwneud ymarfer corff am fwy na hanner awr yr wythnos.  

 

Gan wneud sylwadau ar y sefyllfa, meddai Janet:

 

“Mae pawb yn gwybod beth yw pwysigrwydd ymarfer i’n hiechyd a’n llesiant.

 

“Er enghraifft, nod Iechyd Cyhoeddus Cymru yw cael cymdeithas yng Nghymru lle mae dewisiadau iach yn ddewisiadau hawdd, ac o ganlyniad gweld cynnydd mewn gweithgarwch corfforol erbyn 2030.

 

“Yn anffodus, mae data newydd yn dangos nad oes unrhyw welliannau yng ngweithgarwch corfforol unigolion 16 oed neu hŷn yn ystod y ddwy flynedd ariannol ddiwethaf.

 

“Mae hyn yn destun pryder oherwydd mae’n hysbys bod trin afiechydon y gellir eu hatal a achosir gan anweithgarwch corfforol wedi costio £35 miliwn i GIG Cymru yn 2015.

 

“Hefyd, gallai ymarfer arbed ein bywydau oherwydd mae gan bobl sy’n gorfforol weithgar 50% yn llai o risg o ddatblygu afiechydon cronig sylweddol a rhwng 20-30% yn llai o risg o farw cyn pryd.

 

“Yn anffodus, rydyn ni wedi gweld cyfres o benderfyniadau Llywodraeth Cymru sydd wedi effeithio’n negyddol ar ymarfer corfforol.  

 

“Yn lleol, mae’r rhain yn cynnwys gwrthod y llwybr teithio egnïol ar gyfer Glan Conwy, gostwng cyllid i’r Fenter Nofio Am Ddim, a chynnydd araf Chwaraeon Gogledd Cymru.

 

“Hoffwn weld nod Chwaraeon Gogledd Cymru o greu cenedl egnïol lle gall pawb fwynhau chwaraeon gydol eu hoes, ond o gofio na fydd yr achos busnes a’r cynllun cyflawni a chanlyniadau strategol yn barod tan fis Mawrth 2020, mae’n rhaid i ni chwilio yn rhywle arall am gynnydd.

 

“Gan fod Cymru wedi gwneud cystal yng Nghwpan Rygbi’r Byd, dyma’r amser perffaith i ysbrydoli pobl i gymryd rhan mewn mwy o weithgarwch corfforol.

 

“Dylai Llywodraeth Cymru adeiladu ar y momentwm a helpu i gyflwyno rhwydwaith o chwaraeon Cymru a llysgenhadon gweithgarwch corfforol a fydd yn ysbrydoli pobl i gymryd rhan mewn gweithgareddau.

 

“Gallai hyn fod yn eithaf syml gan fod gan Chwaraeon Cymru eisoes raglen Llysgenhadon Ifanc, a does dim rheswm pam na all nifer o gynghorwyr etholedig ledled Cymru gymryd y llyw a chyfrannu at greu ymgyrch genedlaethol gref i fynd i’r afael ag anweithgarwch corfforol.

 

DIWEDD

 

 

Nodiadau:

 

Newidynnau ychwanegol am ffordd o fyw oedolion

 

Hybu ymddygiad iach

 

Chwaraeon Cymru yn penodi Partneriaeth Cydweithredol Chwaraeon Cymru

  • Senedd News

You may also be interested in

Janet

First Minister Urged to Keep to his word and Make Business Support “Immediately available”

Wednesday, 12 May, 2021

Janet Finch-Saunders, Member of the Senedd for Aberconwy, has written to Mark Drakeford MS, First Minister, urging him to keep to his word and make business support immediately available.

 

Show only

  • Articles
  • Assembly News
  • Local News
  • Media
  • Opinions
  • Senedd News
  • Speeches
  • Westminster News

Janet Finch-Saunders MS/AS Aberconwy

Footer

  • About RSS
  • Accessibility
  • Cookies
  • Privacy
  • About/Am Janet Finch-Saunders
  • Polisi Diogelu Data a Phreifatrwydd
Promoted by Mostyn Jones on behalf of Janet Finch-Saunders, both of 29 Madoc Street, Llandudno, LL30 2TL

Neither the Welsh Parliament, nor Janet Finch-Saunders are responsible for the content of external links or websites. The costs of this website have been met by the Senedd Commission from public funds | Nid yw Senedd Cymru na Janet Finch Saunders yn gyfrifol am gynnwys lincs na gwefannau allanol. Mae Comisiwn y Senedd wedi talu costau'r wefan hon o arian cyhoeddus.

Copyright 2021 Janet Finch-Saunders MS/AS Aberconwy. All rights reserved.
Powered by Bluetree