Skip to main content
Banner image for Janet Finch-Saunders MS/AS

Janet Finch-Saunders MS/AS

ABERCONWY

Main navigation

  • Home/Hafan
  • Janet
  • News/Newyddion
  • Senedd Cymru
  • Contact/Manylion Cyswllt

Ysgrifennydd yr Wrthblaid ar gyfer Llywodraeth Leol yn Hyrwyddo Dwyieithrwydd mewn Cynghorau Tref a Chymuned

  • Tweet
Friday, 2 March, 2018
Senedd

Mae’n dda gan Janet Finch-Saunders AC, Ysgrifennydd yr Wrthblaid ar gyfer Llywodraeth Leol, ddatgan ei llwyddiant wrth herio achosion o eithrio siaradwyr Cymraeg a Saesneg iaith gyntaf o drafodion Cynghorau Tref a Chymuned ledled Cymru.

Meddai Janet:

“Gwlad ddwyieithog yw Cymru, ac rydw i a’r Ceidwadwyr Cymreig eisiau sicrhau bod Cymru’n wirioneddol ddwyieithog, sy’n golygu bod pobl yn teimlo’n gyfforddus yn defnyddio ac yn gallu defnyddio Cymraeg a Saesneg ym mywyd bob dydd, byd busnes a phob lefel o lywodraeth.

“Ar ôl cael gwybod y llynedd bod y di-Gymraeg yn cael eu hatal o’r broses ddemocrataidd yn un cyngor cymuned yn yr etholaeth hon y mae’n anrhydedd i mi ei chynrychioli, roeddwn yn hapus i weithio gyda nhw i sicrhau bod cofnodion cyfarfodydd yn cael eu cyhoeddi yn y Gymraeg a’r Saesneg.

“Wrth hyrwyddo dwyieithrwydd yn un cyngor cymuned, sylweddolais trwy ohebu â chynrychiolwyr y cyngor hwnnw, Llywodraeth Cymru a Mr Lyn Cadwallader, Prif Weithredwr Un Llais Cymru, bod yna ddiffyg mawr yn neddfwriaeth Llywodraeth Cymru: nid oes unrhyw ofynion statudol i gynghorau cymuned a thref gyhoeddi cofnodion yn ddwyieithog – dim ond canllawiau.

“Gall hyn olygu bod rhai cynghorau yn gwrthod cyhoeddi cofnodion Saesneg, a gall cynghorau eraill wrthod cyhoeddi cofnodion Cymraeg. Mae’r sefyllfa hon yn annerbyniol, ac mae angen i Lywodraeth Cymru ddeddfu er mwyn sicrhau nad yw pobl sy’n siarad Cymraeg neu Saesneg fel mamiaith yn cael eu heithrio. Mae’r ffaith nad oes unrhyw un o Lywodraethau Cymru Llafur/Democratiaid Rhyddfrydol/Plaid Cymru ers 1999 wedi gwneud hyn eisoes yn bradychu’r ddwy iaith a dwyieithrwydd.

“Mae’n rhaid i ni ddiolch i Lywodraeth y Ceidwadwyr 1993 am y ddeddfwriaeth orau sy’n bodoli yn y maes hwn, gan fod Deddf yr Iaith Gymraeg 1993 yn datgan y dylid trin y Gymraeg a’r Saesneg yn gyfartal wrth gynnal busnes cyhoeddus a gweinyddu cyfiawnder yng Nghymru.

“Ar sail yr uchod, ac yn dilyn cydweithrediad Mr Cadwallader â’r Ombwdsmon Gwasanaethau Cyhoeddus, rwyf wrth fy modd efo’r ffaith y bydd Un Llais Cymru yn hysbysu’r holl gynghorau sy’n aelodau ohono ledled Cymru bod angen iddynt weithredu mewn ffordd gynhwysol.”

DIWEDD

Nodiadau

Mae Un Llais Cymru yn gorff cynghori ar gyfer y sector cynghorau cymunedau a thref

  • Senedd News

Show only

  • Articles
  • Assembly News
  • Local News
  • Media
  • Opinions
  • Senedd News
  • Speeches
  • Westminster News

Janet Finch-Saunders MS/AS Aberconwy

Footer

  • About RSS
  • Accessibility
  • Cookies
  • Privacy
  • About/Am Janet Finch-Saunders
  • Polisi Diogelu Data a Phreifatrwydd
Promoted by Mostyn Jones on behalf of Janet Finch-Saunders, both of 29 Madoc Street, Llandudno, LL30 2TL

Neither the Welsh Parliament, nor Janet Finch-Saunders are responsible for the content of external links or websites. The costs of this website have been met by the Senedd Commission from public funds | Nid yw Senedd Cymru na Janet Finch Saunders yn gyfrifol am gynnwys lincs na gwefannau allanol. Mae Comisiwn y Senedd wedi talu costau'r wefan hon o arian cyhoeddus.

Copyright 2021 Janet Finch-Saunders MS/AS Aberconwy. All rights reserved.
Powered by Bluetree