Skip to main content
Banner image for Janet Finch-Saunders MS/AS

Janet Finch-Saunders MS/AS

ABERCONWY

Main navigation

  • Home/Hafan
  • Janet
  • News/Newyddion
  • Senedd Cymru
  • Contact/Manylion Cyswllt

‘Ystyriwch effaith noson Tân Gwyllt ar anifeiliaid anwes a bywyd gwyllt’

  • Tweet
Wednesday, 4 November, 2020
 Piotr Łaskawski ar Unsplash

Mae Janet Finch-Saunders AS - Gweinidog Newid Hinsawdd, Ynni a Materion Gwledig yr Wrthblaid y Ceidwadwyr Cymreig - wedi rhoi ei chefnogaeth i ymgyrch gan RSPCA Cymru, sy’n gofyn i breswylwyr ystyried effaith gweithgareddau noson tân gwyllt ar anifeiliaid anwes a bywyd gwyllt lleol.

Yn y pedair blynedd diwethaf, mae’r RSPCA wedi derbyn 1,543 o alwadau am dân gwyllt a’u heffeithiau ar anifeiliaid. Eleni, yn rhannol yn sgil y cyfyngiadau coronafeirws yng Nghymru a chanslo digwyddiadau ffurfiol sydd wedi’u trefnu, mae pôl piniwn diweddar wedi cadarnhau y bydd 18% yn fwy o bobl yng Nghymru a Lloegr yn cynnal arddangosfeydd preifat yn eu gerddi. Mae’r mudiad yn credu y bydd y nifer cynyddol o arddangosfeydd preifat yn arwain at fwy o alwadau am anifeiliaid a thân gwyllt.

Meddai Janet:

“Rydym yn gwybod erioed bod synau uchel annisgwyl yn gallu peri gofid mawr i dda byw a bod anifeiliaid yn fwy sensitif i sŵn amledd uchel na phobl. Gyda phôl piniwn diweddar yn dangos cynnydd mewn arddangosfeydd tân gwyllt domestig, rwy’n gofyn i breswylwyr feddwl am effaith gweithredoedd fel hyn ar ein hanifeiliaid anwes ac ar ein bywyd gwyllt.

“Mae’r ystadegau sy’n gysylltiedig ag effaith tân gwyllt ar ein hanifeiliaid yn frawychus – mae oddeutu 62% o gŵn yn dangos arwyddion o drallod yn sgil y sŵn, ynghyd â 54% o gathod a 55% o geffylau. Mae bywyd gwyllt, fel draenogod, hefyd mewn perygl o gael eu llosgi’n fyw ar ôl ymgartrefu mewn coelcerth. Mae anifeiliaid fferm yn cael eu dychryn yn hawdd hefyd gan synau uchel a fflachiadau sydyn.

“Mae’r RSPCA yn dweud y dylech osod arddangosfa tân gwyllt yn ofalus er mwyn osgoi cynnau tân gwyllt ger unrhyw grŵp o anifeiliaid gwyllt neu anifeiliaid anwes. Maen nhw hefyd yn erfyn arnoch chi i feddwl am falurion posibl, a all fod yn beryglus i anifeiliaid a tharfu ar dda byw. 

“Os ydych chi’n bwriadu cael tân gwyllt preifat, ewch i wefan RSPCA Cymru a bwrwch olwg ar eu tudalennau cyngor ar dân gwyllt. Er budd ein hanifeiliaid anwes a da byw, ac fel gwarcheidwaid ein tir, mae’n rhaid i ni i gyd ystyried ein heffaith ar eu lles.” 

DIWEDD

Nodiadau i olygyddion:  

  • Am ragor o wybodaeth am ymgyrch RSPCA Cymru, cliciwch yma. 

Ffoto: Piotr Łaskawski ar Unsplash

 

  • Local News

You may also be interested in

Janet

First Minister Urged to Keep to his word and Make Business Support “Immediately available”

Wednesday, 12 May, 2021

Janet Finch-Saunders, Member of the Senedd for Aberconwy, has written to Mark Drakeford MS, First Minister, urging him to keep to his word and make business support immediately available.

 

Show only

  • Articles
  • Assembly News
  • Local News
  • Media
  • Opinions
  • Senedd News
  • Speeches
  • Westminster News

Janet Finch-Saunders MS/AS Aberconwy

Footer

  • About RSS
  • Accessibility
  • Cookies
  • Privacy
  • About/Am Janet Finch-Saunders
  • Polisi Diogelu Data a Phreifatrwydd
Promoted by Mostyn Jones on behalf of Janet Finch-Saunders, both of 29 Madoc Street, Llandudno, LL30 2TL

Neither the Welsh Parliament, nor Janet Finch-Saunders are responsible for the content of external links or websites. The costs of this website have been met by the Senedd Commission from public funds | Nid yw Senedd Cymru na Janet Finch Saunders yn gyfrifol am gynnwys lincs na gwefannau allanol. Mae Comisiwn y Senedd wedi talu costau'r wefan hon o arian cyhoeddus.

Copyright 2021 Janet Finch-Saunders MS/AS Aberconwy. All rights reserved.
Powered by Bluetree