Mae Janet Finch-Saunders, yr Aelod o'r Senedd dros Aberconwy, wedi croesawu'r newyddion y bydd 7,309 o safleoedd ar hyd a lled yr etholaeth yn cael eu cysylltu â band eang ffeibr llawn gan Openreach. Gall band eang ffeibr ddarparu cyflymder lawrlwytho o 1 Gbps, sy'n golygu ei fod hyd at 10 gwaith yn gyflymach na chysylltiad band eang y cartref cyfartalog.
Mae amseroedd penodol y cyflwyno yn yr arfaeth ar hyn o bryd, er bod y ffigur hwn yn ychwanegol at y ddarpariaeth bresennol, gwaith adeiladu arfaethedig o raglenni Openreach eraill, Partneriaethau Ffibr Cymunedol, neu raglenni a ariennir. Bydd y cam hwn yn cyfrannu hefyd at greu cyfanswm o 7,000 o swyddi newydd ar draws Openreach a'u cadwyn gyflenwi ehangach.
Wrth gyfeirio at y newyddion, meddai Janet:
“Mae cysylltiad band eang cyflym a dibynadwy wedi dod yn anghenraid bob dydd, yn enwedig yn ystod y flwyddyn ddiwethaf. Wrth i weithio gartref ddod yn duedd sydd ymhell o fod yn pylu, rydw i'n croesawu'r newyddion bod Openreach yn cynyddu'r ymdrech i gysylltu 7,309 yn rhagor o safleoedd ledled yr etholaeth.
“Bydd y cyhoeddiad hwn yn ein hatgoffa o'r ffaith syfrdanol bod 66% o ymatebwyr arolwg diweddar wedi dweud eu bod wedi cael eu heffeithio gan fand eang gwael. Mae'r gagendor digidol yn parhau i gael effaith barhaol ar lwyddiant a lles ein cymunedau gwledig, felly byddaf yn gwylio'r gwaith o gyflwyno'r rhaglen hon yn ofalus iawn.
“Fel y mae swyddogion y diwydiant wedi datgan yn glir yn ein trafodaethau parhaus ar y mater, mae darparu cysylltedd wedi'i uwchraddio i leoliadau anodd eu cyrraedd yn aml yn her fawr o ran y beirianneg ac mae'n eithriadol o gostus. Er gwaethaf hyn, rydw i'n parhau i fod yn ymrwymedig i ganfod ateb sy'n sicrhau mynediad cyfartal i'n cymunedau gwledig a threfol.”
DIWEDD
Nodiadau i Olygyddion:
- Yn ddiweddar, gofynnodd Janet i'r Gweinidog Newid Hinsawdd gadarnhau pa gamau oedd yn cael eu cymryd gan Lywodraeth Cymru er mwyn sicrhau bod gan Gymru fynediad at rwydwaith ffibr llawn, cynhwysfawr. Gallwch gael rhagor o wybodaeth drwy ddarllen y datganiad i'r wasg a geir yma.
- Mae'r datganiad i'r wasg llawn a gafwyd gan Openreach ar gael yma. I gael rhagor o wybodaeth, cysylltwch ag Eurig Thomas yn nhîm cysylltiadau cyhoeddus Openreach ar Eurig.thomas@openreach.co.uk.