Being aware of the pressing shortage of social housing in Aberconwy, the Member of the Welsh Parliament, Janet Finch-Saunders MS, held a joint surgery with Lesley Stones of Conwy Housing Solutions.
Commenting after the surgery Janet said:
“Having corresponded with Lesley on behalf of numerous residents recently, I am delighted to have held this joint surgery in which we could meet with a number of constituents to discuss their housing concerns.
“During this meeting I also had the opportunity to explore issues facing Aberconwy in relation to the lack of available social housing, homelessness and anti-social behaviour and the impact these have on Conwy’s housing list.
“I would like to take this opportunity to thank Lesley and her team for their continued hard work to provide a safe and secure home to all that need it.
“This joint surgery was the first of its kind and I am delighted to see that positive action will be taken to address the concerns of the individuals who met with Lesley and myself today. I look forward to holding further joint surgeries with Conwy Housing Solution.”
ENDS/
Photo: Lesley Stones & Janet Finch-Saunders MS/AS
Yr Aelod o’r Senedd dros Aberconwy yn cynnal cymhorthfa ar y cyd gyda Datrysiadau Tai Conwy
Gan ei bod yn ymwybodol o brinder dybryd tai cymdeithasol yn Aberconwy, cynhaliodd Janet Finch-Saunders, yr Aelod o’r Senedd dros Aberconwy, gymhorthfa ar y cyd â Lesley Stones o Datrysiadau Tai Conwy.
Yn dilyn y gymhorthfa, dywedodd Janet:
“Ar ôl gohebu â Lesley ar ran nifer o drigolion yn ddiweddar, rydw i wrth fy modd fy mod wedi cynnal y gymhorthfa ar y cyd hon lle’r oedd modd i ni gyfarfod llawer o etholwyr i drafod eu pryderon yn ymwneud â thai.
“Yn ystod y cyfarfod hwn, cefais y cyfle hefyd i archwilio materion sy’n wynebu Aberconwy mewn perthynas â’r diffyg tai cymdeithasol sydd ar gael, digartrefedd ac ymddygiad gwrthgymdeithasol ac effaith y rhain ar restr tai Conwy.
“Hoffwn fanteisio ar y cyfle hwn i ddiolch i Lesley a’i thîm am eu gwaith caled parhaus yn darparu cartref diogel i bawb sydd angen hynny.
“Y gymhorthfa ar y cyd hon oedd y cyntaf o’i bath ac mae’n wych gweld y bydd camau cadarnhaol yn cael eu cymryd i fynd i’r afael â phryderon yr unigolion a lwyddodd i gwrdd â Lesley a minnau heddiw. Edrychaf ymlaen at gynnal rhagor ohonynt ar y cyd â Datrysiadau Tai Conwy.”
DIWEDD/
Ffotograff: Lesley Stones a Janet Finch-Saunders AS