Mae Janet Finch-Saunders, yr Aelod o’r Senedd dros Aberconwy, wedi agor y gwasanaethau gyrru drwodd, bwyta i mewn, tecawê a McDelivery newydd sbon ym Mharc Manwerthu Champneys Mostyn yn swyddogol. Y bwyty hwn yw’r bwyty deulawr McDonalds cyntaf yn y Gogledd, sydd eisoes wedi creu 25 o swyddi newydd.
Ar ôl torri’r ruban, dywedodd Janet:
“Mae’n fraint cael gwahoddiad i agor busnes sy’n creu mwy o swyddi yma yn Llandudno yn swyddogol.
“Bydd 40 o swyddi ychwanegol yn hwb i’n hardal.
“Hoffwn ddiolch i Mr Phil Lowndes yn benodol am gael yr hyder i fuddsoddi yn ein cymuned mewn cyfnod o gymaint o ansicrwydd i’r economi leol a chenedlaethol.”
“Mae’n codi calon rhywun bod y sector preifat yn gweithio’n galed i sicrhau bod Llandudno’n ffynnu wrth i ni ddechrau ar y daith hir i godi’n ôl ar ein traed.”
DIWEDD
Llun: Mr Phil Lowndes; Janet Finch-Saunders AS; y Cynghorydd Harry Saville, Maer Llandudno; Sam Rowlands AS.