Heddiw, mae Janet Finch-Saunders AS - Aelod o’r Senedd Aberconwy - wedi anfon ei dymuniadau gorau at y busnesau lleol hynny sy’n ailagor eu drysau’n llawn, gan fanteisio ar y cyfle i alw am adolygiad o fesurau cadw pellter cymdeithasol i sicrhau ‘cydraddoldeb â Lloegr’.
Mae lletygarwch dan do yn ôl o’r diwedd, a mae gweithredwyr twristiaeth y rhanbarth yn ailagor eu drysau i fasnach estynedig wrth i’r wlad symud i lefel rhybudd dau. Mae sinemâu ac atyniadau ymwelwyr, fel amgueddfeydd ac orielau, hefyd yn cael agor eu drysau eto yn y cylch diweddaraf o lacio’r cyfyngiadau.
Wrth bwysleisio ei chefnogaeth i fasnachwyr lleol, dywedodd Janet:
“Dwi’n anfon fy nymuniadau gorau at ein holl fusnesau lleol sy’n ailagor ar gyfer masnach dan do a masnach estynedig o heddiw ymlaen. Y busnesau hyn yw hoelion wyth ein heconomi rhanbarthol ac maen nhw wedi gweithio’n ddiflino i sicrhau bod eu lleoliadau yn ddiogel o ran Covid, gan bwysleisio eu dymuniad i gyfrannu’n llawn at adferiad ein cenedl.
“Ar ôl clywed am y galw cryf sy’n wynebu ein busnesau, gyda llawer yn dweud eu bod wedi derbyn archebion di-ri ar gyfer yr wythnosau nesaf, mae’n amlwg bod ein trigolion lleol a'n hymwelwyr hyfryd yn ysu am gael mynd allan a chefnogi’r crewyr swyddi hollbwysig hyn.
“Dyma gam positif arall ymlaen yn y siwrnai hir i gael ailddechrau masnachu’n llawn. Yn wir, gyda’r holl lety twristiaeth yn cael ailagor eu drysau nawr i ymwelwyr o bob cwr o’r DU, rwy’n wir obeithio y byddwn yn gweld calon twristiaeth y Gogledd yn curo yn falch unwaith eto.
“Nawr, hoffwn weld ein canllawiau ar gadw pellter cymdeithasol yn cael eu hadolygu, gyda’r pwyslais ar gyfrifoldeb personol, er mwyn sicrhau cydraddoldeb â Lloegr. Yn wir, dros Glawdd Offa, mae busnesau yn gweithredu rheol un metr a mwy, lle mae pobl yn cadw dau fetr ar wahân neu un metr gyda mesurau fel sgrin persbecs.”
DIWEDD