Wrth gyflwyno cwestiwn i Weinidog Materion Gwledig a Gogledd Cymru Llywodraeth Cymru, mae Janet Finch-Sunders, yr Aelod o'r Senedd dros Aberconwy, wedi annog y Llywodraeth ddatganoledig i gynnal adolygiad o'r camau y gellir eu rhoi ar waith i ddiogelu ffermydd tenantiaid ymhellach, trwy ganiatáu contractau hirach fel ffordd o gefnogi gwaith rhagweithiol ar wella iechyd pridd a phlannu coed.
Mae bron i 30% o dir amaethyddol Cymru dan ofal tenantiaid, gyda'r daliadau hyn yn gyfle hollbwysig i ffermwyr ifanc wrth iddynt ddechrau yn y diwydiant. Yn ddiweddar, ysgrifennodd Janet i bapur newydd The National gan amlinellu'r ffaith bod plannu coed i wrthbwyso carbon yn gwthio ffermwyr Cymru allan o'r diwydiant.
Wrth siarad y tu allan i'r Siambr, dywedodd Janet:
“Fel y gall llawer o ffermwyr a rhanddeiliaid amaethyddol dystio, mae gallu tenantiaid i gynllunio yn y tymor hir ar gyfer eu teuluoedd a rhoi arferion cynaliadwy ar waith yn cael ei danseilio gan y rheolau. Yn y rhan fwyaf o achosion, gwyddom hefyd nad yw ffermwyr tenant yn gallu plannu coed oherwydd cymalau cyfyngol yn eu cytundebau.
“Canfu strategaeth Tyfu Gyda'n Gilydd NFU Cymru y gallai polisïau sy'n hyrwyddo plannu coed effeithio ar denantiaethau tymor byr, yn enwedig os yw'r cyllid a gynigir yn fwy na lefelau cymorth ar gyfer tir amaethyddol, a gallai hyn beri bod landlordiaid yn terfynu contractau.
“O dderbyn bod sector tenantiaid ffyniannus yn hanfodol ar gyfer ffermio cynhyrchiol a blaengar, dylai Llywodraeth Cymru adolygu'r camau sydd eu hangen a chaniatáu mwy o hyblygrwydd, i ymestyn contractau fel y gellir rhoi arferion pridd cynaliadwy ar waith, ac er mwyn osgoi agwedd negyddol arall ar bolisïau plannu coed.”
Yn ddiweddar, mae Mrs Finch-Saunders wedi plannu coeden yn yr etholaeth er mwyn codi ymwybyddiaeth o'r strategaeth Tyfu Gyda'n Gilydd.
DIWEDD
Llun: gan Spencer Pugh ar Unsplash