Mae Janet Finch-Saunders, AS Aberconwy, wedi cyfrannu at ddadl y Ceidwadwyr Cymreig yn y Senedd yn galw ar Lywodraeth Cymru i osod targed o leihau cam-drin plant, esgeulustod a phrofiadau niweidiol eraill yn ystod plentyndod 70% erbyn 2030.
Yn ystod yr araith, fe wnaeth Janet annog Llywodraeth Cymru i adolygu pa gamau newydd y gallant eu cymryd i sicrhau bod dull gweithredu ‘dim drws anghywir’ ag adnoddau digonol yn cael ei ddefnyddio gyda chysylltiadau rhwng gwasanaethau ym mhob maes.
Roedd ffigurau mis Gorffennaf 2021 yn dangos bod 432 o gleifion o gyfanswm o 720 yn aros pedair wythnos neu fwy am eu hapwyntiad cyntaf gyda gwasanaethau iechyd meddwl arbenigol i blant a'r glasoed.
Wrth siarad ar ôl ei chyfraniad, dywedodd Janet:
“Y llynedd, nododd adroddiad gan Brifysgol Caerdydd fod tua 19% o bobl ifanc yng Nghymru wedi nodi lefelau uchel iawn o symptomau iechyd meddwl cyn pandemig COVID-19. Mae ysgolion wedi dweud nad oes ganddynt ddigon o adnoddau i ymdopi â'r galw am gymorth angenrheidiol, er eu bod yn mynd yr ail filltir i weithredu dulliau ysgol gyfan o ddarparu gwasanaethau.
“Dywed Barnardo's wrthyf mai amgylchedd cartref anodd yw'r ffactor canolog sy'n effeithio ar iechyd meddwl pobl ifanc, gyda mwy a mwy o blant yn troi at ddefnyddio canabis fel ffordd o ddelio â’u trawma.
“Yng Nghonwy, rwy'n falch bod yr elusen yn cael ei hariannu i gefnogi teuluoedd sydd wedi'u heffeithio gan achosion o gam-drin alcohol a sylweddau. Ond mae'r elusen yn dweud ei bod hi'n anodd parhau gyda'i darpariaeth brofiadol pan nad yw staff yn gwybod a fydd eu swydd yn cael ei hariannu o un flwyddyn i’r llall.
“Mae angen darparu cyllid i gefnogi bywydau ac amgylcheddau iach. Felly, rwyf hefyd wedi herio'r Gweinidog i gydweithio ar draws y Llywodraeth i adolygu pa gamau y gellir eu cymryd i ddarparu ymrwymiadau ariannu a sicrwydd tymor hwy i'r gwasanaethau hynny sy'n cynorthwyo ein hysgolion i fynd i'r afael â'r ffactorau wrth wraidd y bwlch cyrhaeddiad.”
DIWEDD
Llun: gan Jonny Gios ar Unsplash