Yn dilyn digwyddiad diweddar ar hyd yr A470 rhwng Maenan a Thal-y-Cafn, mae Janet Finch-Saunders AS Aberconwy yn galw ar drigolion Dyffryn Conwy i fynegi eu pryderon drwy gwblhau ei harolwg.
Roedd Mrs Finch-Saunders wedi sicrhau ymrwymiad blaenorol gan Lywodraeth Cymru y byddai adolygiad o'r A470 o Glan Conwy i Fetws-y-coed yn y flwyddyn ariannol nesaf. Er mwyn cynorthwyo'r adolygiad hwn, mae Janet wedi annog trigolion i helpu i nodi'r lleoliadau sy'n peri pryder difrifol.
Gallwch wneud hyn trwy fynd i www.janetfinchsaunders.org.uk/A470
Wrth ymateb i ddamwain arall ar yr A470, dywedodd Janet:
“Ar ôl ysgrifennu at y Dirprwy Weinidog i godi fy mhryderon difrifol am y rhan o'r gefnffordd sy'n mynd drwy Maenan, rwy'n bryderus iawn o glywed adroddiadau am ddigwyddiad pellach yno.
“Felly, a chyda'r flwyddyn ariannol newydd yn prysur agosáu, rwyf wedi ymrwymo i sicrhau bod pob preswylydd yn cael y cyfle i nodi pa rannau o'r briffordd gyhoeddus hanfodol hon sy'n eu poeni fwyaf.
“Byddwn yn annog fy etholwyr i gwblhau fy arolwg ar-lein er mwyn tynnu sylw Llywodraeth Cymru at y rhannau mwyaf peryglus.
“Pan ddaw’r ymatebion i law, gallaf sicrhau trigolion lleol y byddaf yn parhau i ddwyn Llywodraeth Cymru i gyfrif am addo adolygiad 2022/2023 fel bod pobl leol ac ymwelwyr fel ei gilydd yn cael eu diogelu wrth ddefnyddio'r gefnffordd bwysig hon.”
DIWEDD