Mewn datganiad i’r Senedd, mae Janet Finch-Saunders AS - Aelod o’r Senedd dros Aberconwy - wedi nodi dau ganmlwyddiant Gwylwyr y Glannau Ei Mawrhydi sy’n gweithio dros ein cymunedau arfordirol, gan dalu teyrnged i’w hymdrechion wrth chwilio am y cwch Nicola Faith.
Ers ei sefydlu ym 1822 i fynd i’r afael â masnachu anghyfreithlon mewn nwyddau heb dalu trethi, mae’r gwasanaeth wedi esblygu yn sefydliad Prydeinig sy’n sicrhau diogelwch pobl ar lannau’r DU.
Yn gweithio 24 awr y dydd, yn 2022, mae canolfannau gweithrediadau Gwylwyr y Glannau yn cydlynu ymatebion i sefyllfaoedd brys ar yr arfordir gan alw ar 310 o Dimau Achub Gwylwyr y Glannau - sy’n cynnwys 3500 o wirfoddolwyr ymroddedig - a defnyddio 10 o ganolfannau hofrenyddion chwilio ac achub.
Yn dathlu Gwylwyr y Glannau, dywedodd Janet:
“Ar ddau ganmlwyddiant y gwasanaeth hwn, roeddwn i’n falch iawn o gael rhoi datganiad i’r Senedd yn diolch yn benodol i Wylwyr y Glannau Llandudno - tîm y mae eu proffesiynoldeb yn parhau i achub bywydau ar y môr ac ar hyd ardaloedd arfordirol fel Pen y Gogarth a Thrwyn y Fuwch.
“Wrth i’r niferoedd mwyaf erioed o bobl ymweld â’n glannau dros y blynyddoedd diwethaf, mae llwyni naturiol Aber Afon Conwy - ar adegau - wedi gofyn am ymdrechion achub di-rif gyda’n Gwylwyr y Glannau yn cydlynu eu hymatebion yn ddigyffro, rhywbeth sy’n destun balchder lleol.
“Mae’r deyrnged hon yn agos iawn i’n calonnau wrth i’r gymuned gofio marwolaeth Carl McGrath, Ross Ballantine ac Alan Minard flwyddyn ar ôl suddo’r Nicola Faith. Roedd gwaith Gwylwyr y Glannau Ei Mawrhydi, law yn llaw â chriwiau ymroddedig RNLI, yn ystod y broses chwilio yn aros yn y cof am byth.”
Y mis diwethaf, dechreuodd Gwylwyr y Glannau EM weithredu ei rwydwaith radio chwilio ac achub newydd sydd wedi’i ddiweddaru ac sy’n defnyddio technoleg ffeibr. Mae mwy na £175 miliwn wedi’i fuddsoddi i uwchraddio rhwydwaith radio cenedlaethol Gwylwyr y Glannau ymhob un o’u 165 safle dros y ddwy flynedd nesaf.
DIWEDD