Mae Janet Finch-Saunders AS – yr Aelod o’r Senedd dros Aberconwy - wedi beirniadu’r cynnydd mewn ‘rhethreg gwrthdwristiaeth’, yn sgil yr awgrym y dylai pobl sy’n berchen ar garafanau a chalets ym mharciau gwyliau Cymru orfod talu’r dreth gyngor. Gwnaed yr awgrym yn ystod dadl ynghylch a ddylai Gwynedd osod y dreth gyngor bremiwm, gan y Cynghorydd John Brynmor Hughes.
Yn siarad yn erbyn y cynnig, dywedodd Janet:
“Fel arfer, mae perchnogion y carafanau yn talu ffi flynyddol o filoedd o bunnoedd i’n parciau gwyliau lleol, ac mae’n cynnwys cyfraniad at y bil ardrethi busnes cyffredinol. Maen nhw’n asedau hanfodol sy’n sicrhau bod drysau ein parciau yn aros ar agor ac yn buddsoddi yn ein rhanbarth.
“Y tu hwnt i wario eu harian mewn sefydliadau lletygarwch a manwerthu lleol, mae’r unigolion hyn hefyd yn gyswllt cymorth hanfodol ar gyfer ein sector gwasanaethau, gan dalu cyflogwyr lleol am bopeth o archwiliadau trydan i gyflenwi nwy.
“Byddaf yn parhau i fynd i’r afael â’r rhethreg gwrthdwristiaeth gamarweiniol a chynyddol sy’n cael ei bwydo gan bartneriaid y glymblaid yn y Bae. Dim ond cwta fis yn ôl ac roedden ni’n dathlu gwaith caled a manteision busnesau o’r fath yng Ngwobrau Go North Wales. Ni allwn adael i hyn gael ei danseilio gan ymyriadau difeddwl yn y farchnad.”
Mae Rheoliadau Ardrethi Annomestig (Meysydd Carafanau) 1990 yn nodi bod parciau gwyliau sy’n cael eu hystyried o fewn y diffiniad o “faes carafanau”, sy’n golygu eu bod yn cynnwys rhai eiddo annomestig ac sydd ag ardal o 400 llathen sgwâr neu fwy, yn cael eu hystyried fel rheol i fod yn uned drethadwy ar y rhestr ardrethi annomestig.
DIWEDD
Ffotograff: Janet Finch-Saunders AS