Mae Janet Finch-Saunders AS, Aelod o’r Senedd dros Aberconwy a Gweinidog Newid Hinsawdd yr Wrthblaid, wedi cwestiynu uchelgais cynllun gwefru cerbydau trydan Llywodraeth Cymru ac mae’n galw am ragor o gefnogaeth i gynorthwyo gyda phontio ar gyfer defnyddwyr.
Daw’r alwad wrth i’r Aelod fynychu lansiad Profiad Trydan Kia EV6 yn Kia Llandudno. Yn ôl y deunyddiau hyrwyddo sydd ar gael, mae gan y Kia EV6 ystod o hyd at 328 milltir a gall gymryd cyn lleied â 18 munud i wefru o 10% i 80%. Mae Kia Llandudno yn fusnes teuluol sydd wedi’i leoli gyferbyn â Pharc Manwerthu Llandudno ar Heol Argyll.
Yn rhoi sylwadau ar y digwyddiad, dywedodd Janet:
“Roedd hi’n braf iawn mynychu lansiad Profiad Trydan Kia EV6 yn Kia Llandudno, a bwysleisiodd y camau breision y mae’r cerbydau hyn wedi’u cymryd o ran cynaliadwyedd a thechnoleg. Dim ond un enghraifft yw’r busnes teuluol rhagorol hwn o’r busnesau sy’n addasu i hwyluso’r pontio i ddefnyddwyr ar raddfa fawr sy’n ofynnol er mwyn mynd i’r afael â’r argyfyngau hinsawdd a natur.
“Fodd bynnag, rydym yn gwybod bod angen cymryd camau os ydym am annog pontio o’r fath i ddefnyddwyr ceir ledled Cymru. Ar hyn o bryd rydym yn 10fed o 12 cenedl a rhanbarth yn y DU o ystyried cyfanswm y mannau gwefru sydd ar gael. Mae’r ystadegyn hwn yn peri cryn ofid ac yn rhoi rhywfaint o eglurhad ynghylch canfyddiad arolwg diweddar yr ONS bod 43% o bobl sy’n prynu ceir yng Nghymru yn gohirio prynu ceir trydan am o leiaf bum mlynedd arall.
“O ystyried bod Cyllideb Garbon Sero-Net Llywodraeth Cymru yn cyfleu’r uchelgais y dylai 48% o geir newydd sy’n cael eu prynu fod yn rhai dim allyriadau erbyn 2025, mae’n amlwg bod y polisi gwefru hwn wedi mynd i gyfeiriad sy’n peri gofid ac sy’n golygu bod perygl na fydd targedau llwyddo’n cael eu cyflawni. Gyda’r targed o 4,000 o fannau gwefru cyflym wedi’i hepgor o’r ddogfen derfynol a gyhoeddwyd yn ôl pob golwg, mae’n gadael mwy o gwestiynau heb eu hateb.
“Ers datgan argyfwng newid hinsawdd dros ddwy flynedd a hanner yn ôl, mae pwyllgor Newid Hinsawdd y Senedd wedi canfod nad yw’r datganiad wedi ‘sbarduno ton o weithredu’ fel yr oedd Gweinidogion wedi gobeithio. Os ydym ni am gefnogi’r newid tuag at drafnidiaeth gynaliadwy, mae angen i ni roi ein troed ar y sbardun ac annog y newid ymysg defnyddwyr.”
DIWEDD
Ffoto: CHUTTERSNAP/UnSplash