Ar ôl mynychu’r lansiad rhithwir ddoe, mae Janet Finch-Saunders AS – yr Aelod o’r Senedd dros Aberconwy – wedi croesawu cyhoeddi adroddiad gan y Gymdeithas Siopau Cyfleustra a ganfu bod 83% o fanwerthwyr annibynnol yng Nghymru wedi cymryd rhan mewn rhyw fath o weithgarwch cymunedol yn y flwyddyn ddiwethaf.
Yn ôl Adroddiad Siopau Lleol Cymru 2022, mae bron i 3,000 o siopau cyfleustra yng Nghymru, sy’n darparu nwyddau a gwasanaethau hanfodol i’w cwsmeriaid a chyflogi dros 25,000 o bobl gyda swyddi lleol hyblyg a gwneud gwahaniaeth positif yn eu cymunedau.
Mae Mrs Finch-Saunders – menyw fusnes uchel ei pharch a ddechreuodd y Grŵp Trawsbleidiol ar Siopau Bach yn ystod y Pedwerydd Cynulliad – wedi dangos ei chefnogaeth i fusnesau newydd a BBaChau sefydledig drwy ymrwymo i ddal ati i weithio i sicrhau nad yw entrepreneuriaid lleol yn gorfod wynebu unrhyw gostau diangen sy’n eu dal yn ôl.
Wrth roi sylwadau ar yr adroddiad, dywedodd Janet:
“Rwy’n falch iawn o weld canfyddiadau gwych Adroddiad Siopau Lleol Cymru sy’n dathlu budd cymunedol y BBaChau hyn ledled Cymru. Gyda’r cwsmer cyffredin yng Nghymru yn ymweld â’i siop leol rhwng dwywaith a theirgwaith yr wythnos, mae’n hollbwysig ein bod yn dal ati i gefnogi’r mentrau hyn sy’n rhai teuluol yn bennaf.
“O siopau fferm i gigyddion, stondinau llysiau i siopau cornel, mae gan Aberconwy gymysgedd gwych a bywiog o fusnesau cyfleustra fel hyn. Gyda’n gilydd, mae’n rhaid i ni barhau i ddefnyddio grym ein punnoedd prin i brynu’n lleol a chefnogi swyddi rhanbarthol a diogelu’r cadwyni cyflenwi.
“Byddaf yn parhau i wneud popeth o fewn fy ngallu i gefnogi’r busnesau hyn. Mae hyn yn golygu defnyddio gostyngiadau mewn trethi busnes fel adnodd i ddenu buddsoddiad. Yn fy rôl fel Gweinidog Newid Hinsawdd yr Wrthblaid, byddaf yn gweithio’n galed hefyd i sicrhau y bydd unrhyw gynllun dychwelyd ernes yn gyson â gwledydd eraill y DU ac yn niwtral o ran cost i’n manwerthwyr lleol.”
Casglwyd y data sylfaenol ar gyfer yr Adroddiad Siopau Lleol gan ACS ar ffurf dau arolwg: Arolwg Manwerthwyr Annibynnol (samplo 2,420 o fusnesau siopau cyfleustra annibynnol yn y DU) a’r Arolwg Manwerthwyr Lluosog (arolwg ar-lein/ papur a gynhaliwyd gan ACS gyda sampl o 6,200 o siopau).
DIWEDD
Llun: Janet Finch-Saunders AS