Wrth ddal ati gyda’i hymgyrch i gynnal ac adfer y gwasanaethau a gynigir yn Ysbyty Cyffredinol Llandudno, mae Janet Finch-Saunders AS - Aelod o’r Senedd dros Aberconwy - wedi cynnal cyfarfod gyda Grŵp Gweithredu Ysbyty Llandudno i drafod yr angen i ddilyn llwybr positif ymlaen. O ganlyniad i’r cyfarfod, mae’r Cadeirydd, y Cynghorydd Carol Marubbi, wedi ymrwymo i drefnu Cyfarfod Cyffredinol Blynyddol y Grŵp.
Yn ystod y cyfarfod, cytunwyd y dylai’r Bwrdd Iechyd ystyried llunio cynllun strategol hirdymor ychwanegol i ddeall pa staff fydd eu hangen arnynt ymhen blwyddyn. Felly, mae Janet wedi ymrwymo i ddal ati gyda’i gwaith i wella ysgol feddygol Gogledd Cymru er mwyn helpu i gadw gweithwyr proffesiynol dawnus wedi’u hyfforddi’n feddygol yn y rhanbarth.
Wrth sôn am y cyfarfod cynhyrchiol, dywedodd Janet:
“Mae cleifion ledled Aberconwy yn ymwybodol iawn o’r straen ar ein gweithwyr gofal iechyd proffesiynol. Ym mis Awst, dangosodd ystadegau amseroedd aros mai Betsi Cadwaladr oedd y Bwrdd Iechyd oedd yn perfformio waethaf yng Nghymru gyda dim ond 64.9% yn cael eu gweld o fewn y targed o bedair awr. Fel yr wyf yn atgoffa’r Bwrdd Iechyd a Gweinidogion yn y Senedd yn gyson, mae’n rhaid i’n hysbytai llai wneud cyfraniad pwysicach fyth yn ein gwasanaeth iechyd, a gallant wneud hynny.
“Rwyf wedi credu ers tro nad yw Ysbyty Llandudno yn cael ei ddefnyddio’n ddigonol. Wrth gydnabod y gofal rhagorol a gynigir gan staff yn yr ysbyty, mae’n drist dros ben bod llawer o etholwyr yn credu nad oes ganddynt lawer o ddewis ond gyrru i Ysbyty Glan Clwyd neu Ysbyty Gwynedd gan fod yr adran achosion brys wedi’i hisraddio yn Llandudno.
“Felly, roeddwn i’n falch iawn o weld cefnogaeth ymysg aelodau Grŵp Gweithredu Ysbyty Llandudno heddiw y dylai’r rhestr o gyfrifoldebau ar gyfer yr Uned Mân Anafiadau yn Llandudno gael ei hadolygu i weld a all gynnig rhagor o gymorth a gofal ddydd a nos. Cytunwyd hefyd bod yn rhaid ailagor yr Uned Gofal Dydd i gleifion cyn gynted â phosib hefyd.
“Fel y crybwyllwyd yng nghyfarfod Grŵp Gweithredu Ysbyty Llandudno heddiw, rhan o’r broblem wrth ehangu unrhyw ddarpariaeth ar y safle yw argyfwng recriwtio hirsefydlog, gan arwain at gostau cynyddol staff asiantaeth. Dyma pam y byddaf yn dal ati i bwyso ar Lywodraeth Cymru i blannu’r hadau ar gyfer twf mawr mewn recriwtio drwy fanteisio i’r eithaf ar botensial Ysgol Feddygol Gogledd Cymru. Bydd buddsoddi nawr yn sicr o dalu ar ei ganfed yn yr hirdymor.”
Ymysg y cyfleusterau yn Ysbyty Cyffredinol Llandudno mae Uned Osteoporosis ac Uned Rhiwmatoleg. Mae’n bwysig iawn nodi bod Ysbyty Llandudno yn parhau i fod y gartref i’r unig ganolfan esgyrn yn y Gogledd ac nid oes unrhyw fwriad i symud neu leihau’r gwasanaeth hwn.
Gall yr Uned Mân Anafiadau gynorthwyo hefyd gydag ysigiadau, briwiau a chrafiadau, sgaldiadau, rhywbeth yn llygaid pobl, brathiadau a phigiadau pryfed a mân anafiadau i’r pen. Fodd bynnag, dim ond rhwng 8am ac 8pm bob dydd y mae’r Uned ar agor.
Yn y gorffennol, mae Janet wedi mynegi ei phryder am y datgeliad nad oes unrhyw gleifion wedi’u gweld yn Uned Gofal Dydd y safle yn 2021. Arweiniodd y cadarnhad hwn, a gafwyd drwy ymateb Rhyddid Gwybodaeth, at alwadau’r Aelod i ailagor y ganolfan fel ffordd o fynd i’r afael â rhestrau aros.
DIWEDD
Llun: Janet yn cyfarfod gydag aelodau Grŵp Gweithredu Ysbyty Llandudno.