Yng ngoleuni gwrthodiad parhaus Llywodraeth Cymru i gynnal Ymchwiliad COVID-19 penodol i Gymru, mae'r Aelod o'r Senedd dros Aberconwy - Janet Finch-Saunders - wedi cyfarfod â Bereaved Families for Justice Cymru yn y Senedd ym Mae Caerdydd.
Mae'r grŵp cenedlaethol hwn yn galw am gynnal ymchwiliad COVID-19 i'r ffordd mae Llywodraeth Cymru wedi ymdrin â'r pandemig Coronafeirws a'r niwed, salwch neu farwolaethau a ddeilliodd o'i gweithredoedd, pwynt a amlygwyd ymhellach gan adroddiad y BBC ym mis Awst eleni a nododd fod "bron i chwarter y bobl sydd wedi marw o COVID-19 yng Nghymru wedi'u heintio yn yr ysbyty."
Ar ôl cyfarfod â'r teuluoedd, meddai Janet:
“Mae straeon a phrofiadau'r unigolion hyn a'u teuluoedd yn ei gwneud hi'n glir bod angen i benderfyniadau, polisïau a chanllawiau Llywodraeth Cymru gydol y pandemig hwn fod yn destun ymchwiliad difrifol er mwyn gwerthuso'n effeithiol yr effaith niweidiol neu angheuol y gallen nhw fod wedi'i chael ar unigolion a theuluoedd ledled Cymru.
"Dim ond drwy gynnal Ymchwiliad penodol i Gymru y gellir cymryd y camau priodol i sicrhau bod Llywodraeth Cymru yn dysgu o'r pandemig hwn ac y gellir rhoi'r mesurau priodol ar waith i sicrhau polisïau iechyd cyhoeddus mwy effeithiol yn y dyfodol, er mwyn osgoi marwolaethau y gellir eu hatal yn y dyfodol. Rhaid i hyn fod yn brif flaenoriaeth yn sgil y Pandemig hwn.
"Felly, rwy'n annog y Prif Weinidog i wrthdroi ei benderfyniad ac ymrwymo i Ymchwiliad COVID-19 penodol i Gymru – ymchwiliad y mae'r gwrthbleidiau wedi bod yn galw amdano dros y misoedd diwethaf.”
DIWEDD
Ffotograff: Janet Finch-Saunders AS yn y digwyddi