Wrth siarad dros gyfnod y Nadolig, mae'r Aelod o'r Senedd dros Aberconwy, Janet Finch-Saunders, wedi dangos ei chefnogaeth i’r ymgyrch Caru Bwyd Casáu Gwastraff sy'n gofyn i drigolion fod yn fwy creadigol yn y gegin er mwyn lleihau gwastraff.
Daw hyn wrth i ymatebwyr arolwg diweddar ddweud eu bod yn disgwyl taflu tua saith cilo o fwyd, sy'n cyfateb i 194,600 tunnell o wastraff ledled y wlad. Mae darnau o dwrci a ham, sbrowts, tatws rhost a selsig mewn bacwn ymhlith y bwydydd y disgwylir iddyn nhw gael eu taflu i'r bin.
“Y Nadolig hwn, rwy'n falch o gefnogi gwaith Caru Bwyd Casáu Gwastraff, sy'n gofyn i ni i gyd fod ychydig yn fwy creadigol yn y gegin er mwyn lleihau gwastraff.
“Er bod holl fwrlwm a pharatoadau’r ŵyl yn waith caled, gallwn leihau ein heffaith ar y blaned trwy gymryd cam yn ôl i feddwl a myfyrio.
“Mae hyn yn golygu cynllunio ymlaen llaw, bod yn hyblyg a defnyddio bwyd blasus dros ben i'n cynhesu y gaeaf hwn. Gallwn bob amser gyfrannu bwydydd heb eu hagor a chreu compost gyda'r sbarion. Felly, gadewch i ni ddod at ein gilydd y Nadolig hwn a bod yn fwy ystyriol gyda’n gwastraff bwyd.”
DIWEDD
Ffotograff: gan Dilyara Garifullina ar Unsplash