Mae'r Aelod o Senedd Cymru dros Aberconwy – Janet Finch-Saunders AS – wedi cyfarfod â swyddogion o'r Coleg Nyrsio Brenhinol i danlinellu ei chefnogaeth i'w ymgyrch i ehangu lefelau gofal nyrsio diogel ac effeithiol i gynnwys wardiau cleifion mewnol iechyd meddwl a nyrsio cymunedol.
Mae Cymru wedi deddfu ar gyfer y ddyletswydd i gael isafswm lefel staffio diogel ym maes nyrsio ar gyfer wardiau cleifion mewnol meddygol a llawfeddygol mewn ysbytai. Nawr, mae'r Coleg Nyrsio Brenhinol yn gwneud cais Adran 25B o Ddeddf Lefelau Staff Nyrsio (Cymru) 2016 i gwmpasu mwy o feysydd gofal iechyd, gan ryddhau adroddiad sydd hefyd yn argymell bod Llywodraeth Cymru yn cyhoeddi data ar swyddi gwag nyrsys cofrestredig er mwyn gwella'r gwaith o gynllunio'r gweithlu a datblygu strategaeth genedlaethol ar gyfer cadw nyrsys yn y GIG.
Yn ôl y Coleg Nyrsio Brenhinol, oherwydd prinder staff yng Nghymru, mae angen i nyrsys weithio 34,284 awr o oramser bob wythnos i ofalu am gleifion. Mae gwaith ymchwil wedi dangos bod nyrsys sy'n gweithio mewn ardaloedd â lefelau staffio gwael 71% yn fwy tebygol o ddioddef blinder llethol a bod yn anfodlon â'u swydd na nyrsys ar wardiau â lefelau staffio mwy ffafriol.
Wrth siarad am ei chefnogaeth i'r ymgyrch, dywedodd Janet:
“Nid yw lefelau staffio GIG Cymru yn ddigonol, ac maen nhw'n arwain at beryglon difrifol i ddiogelwch cleifion ac yn niweidio morâl staff. Ar ôl rhyddhau adroddiad gyda nifer o argymhellion adeiladol, roedd yn dda gennyf fynychu digwyddiad y Coleg Nyrsio Brenhinol i gefnogi ei ymgyrch.
“Yn ogystal â siarad â swyddogion am y sefyllfa bryderus o ran staffio yn Aberconwy, ac yn ehangach ledled y Gogledd, roedd y digwyddiad yn gyfle i mi fynegi fy niolch mawr a diffuant i staff y GIG sy'n parhau i wneud gwaith cwbl allweddol yn yr ymdrech genedlaethol i fynd i'r afael â’r coronafeirws. Rhaid i ni ddiolch o waelod calon iddynt am eu holl waith.
“Rydym yn gwybod bod tua 3,000 o swyddi gwag ledled y GIG yn ei gyfanrwydd. Ochr yn ochr â thoriadau bob blwyddyn yn nifer y gwelyau mewn ysbytai, mae'r ystadegau difrifol hyn yn tanlinellu'r angen dybryd i ehangu deddfwriaeth ar isafswm lefelau staffio i gynnwys wardiau iechyd meddwl, a'r angen i adolygu sut y gallwn wella’r gwaith o gadw staff nyrsio.
“Yn dilyn y digwyddiad yr wythnos hon yn y Senedd, edrychaf ymlaen at barhau i ymgysylltu â'r Coleg Nyrsio Brenhinol. Gall trigolion lleol ymuno â mi i gefnogi nodau'r Coleg Nyrsio Brenhinol trwy lofnodi'r ddeiseb a'i rhannu gyda'r hashnod #ForTheFullTeam.”
Mae Coleg Nyrsio Brenhinol Cymru yn amcangyfrif bod nifer y swyddi gwag ar gyfer nyrsys cofrestredig yn GIG Cymru wedi codi i 1,719 yn 2021 o 1,612 yn 2020. Mae'r sefydliad yn dweud ei bod hi'n anodd nodi’r gyfradd o swyddi gwag ar gyfer nyrsys yng Nghymru oherwydd anghysondebau yn y data. Er enghraifft, mae data Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr yn cyfeirio at swyddi gwag nyrsio a bydwreigiaeth yn unig yn Agenda ar gyfer Newid Band 5.
DIWEDD
Llun: Janet Finch-Saunders AS yn ystod digwyddiad y Coleg Nyrsio Brenhinol.