Mae Janet Finch-Saunders, yr Aelod o'r Senedd dros Aberconwy, wedi croesawu Jack Sergeant AS, Cadeirydd Pwyllgor Deisebau'r Senedd, i Glan Conwy i drafod cais deisebau i weithredu terfyn cyflymder o 20 mya 100 metr o boptu croesfan yn yr ardal.
Cyfarfu'r gwleidyddion â'r Cynghorydd Dan Worsley, y deisebydd. Mae'r ddeiseb yn amlinellu'r ffaith bod llawer o drigolion yn pryderu am gyflymder cerbydau a gofnodwyd, dros gyfnod o bythefnos, gan Asiant Cefnffyrdd Gogledd a Chanolbarth Cymru fel 32.8 mya ar gyfartaledd.
Ar ôl y cyfarfod, dywedodd Janet:
“Ar ôl ymgyrch wyth mlynedd gyda'r gymuned, gan ysgrifennu llythyrau a gofyn cwestiynau i Weinidogion Llywodraeth Cymru, roeddwn wrth fy modd fy mod wedi helpu i sicrhau'r groesfan mawr ei hangen hon er mwyn cynyddu diogelwch ar y ffyrdd a dod â dwy ochr y pentref ynghyd.
“Yn dilyn pryderon a godwyd ynghylch cyflymder cerbydau wrth agosáu at y groesfan sebra newydd hon, roeddwn i'n falch iawn hefyd o gyflwyno sylwadau brys i Lywodraeth Cymru a arweiniodd at gynnig ar ei newydd wedd er mwyn sicrhau bod gyrwyr yn cael gwybod am y groesfan mewn da bryd.
“Yn dilyn y gwaith rhagweithiol hwn, rwy’n croesawu'r cyfarfod cynhyrchiol heddiw ar y safle gyda Chadeirydd Pwyllgor Deisebau'r Senedd a'r deisebydd lleol fel y gall y pwyllgor gael dealltwriaeth a darlun cliriach o'r pryderon a godwyd.
“Wrth i ni wthio'r pryderon hyn tuag at y cam olaf, byddaf yn ceisio parhau i ymgysylltu â'r gymuned er mwyn sicrhau bod hyn yn cael ei ddatrys.”
DIWEDD
Ffotograff: Janet Finch-Saunders AS gyda Jack Sargeant AS a'r Cynghorydd Dan Worsley.