Mae Janet Finch-Saunders AS, Aelod o’r Senedd Aberconwy a chyn Gadeirydd y Grŵp Trawsbleidiol ar Siopau Bach, wedi croesawu’r newyddion y disgwylir i’r Gwir Anrhydeddus Rishi Sunak AS, y Canghellor, gyhoeddi cronfa gwerth £130 miliwn newydd a fydd yn helpu miloedd o fentrau bach a chanolig yng Nghymru yn y gyllideb yr wythnos hon.
Bydd y gronfa yn cael ei darparu drwy Fanc Busnes Prydain, gan weithio’n agos gyda phartneriaid lleol, a bydd yn helpu BBaChau Cymru i fuddsoddi a thyfu.
Gan roi ei sylwadau ar y cyhoeddiad am gyllid, dywedodd Janet:
“Gydol y pandemig, mae’r Canghellor wedi rhoi cymorth digynsail i fusnesau a’u gweithwyr, ac mae’n parhau i wneud hynny.
“Eisoes yng Nghymru, rydym wedi gweld Llywodraeth y DU yn diogelu mwy na 460,000 o swyddi drwy’r cynllun ffyrlo, ac yn darparu £173 miliwn mewn cymorth i’r hunangyflogedig. Rwy’n falch y bydd cymorth pellach yn cael ei gynnig drwy Fanc Busnes Prydain.
“Er bod yr economi yn gwella, mae’n hollbwysig bod busnesau ledled Aberconwy a Chymru yn gwybod bod cymorth ar gael os ydyn nhw ei angen yn ystod y gaeaf, felly rwy’n annog pawb i ymgyfarwyddo â’r cynllun unwaith y bydd y manylion ar gael.”
DIWEDD