Mae Janet Finch-Saunders AS – yr Aelod o’r Senedd dros Aberconwy – wedi croesawu'r cyhoeddiad bod Llandudno wedi sicrhau £825,000 drwy Gronfa Adnewyddu Cymunedol Llywodraeth y DU i hybu busnes ac annog arloesi yn yr economi ymwelwyr.
Dywedir bod y prosiect Busnes@LlandrilloMenai yn cynnwys ymrwymiad cyllid o oddeutu £400,000 ar gyfer cymhorthdal cyflogau dros y gaeaf er mwyn i westai a busnesau twristiaeth eraill allu cadw staff y tu allan i’r tymor.
Wrth groesawu’r newyddion, dywedodd Janet:
“Rwyf wrth fy modd yn croesawu’r newyddion gwych hwn am gyllid, sydd unwaith eto yn pwysleisio cefnogaeth Llywodraeth y DU i uchelgeisiau ein sectorau twristiaeth a lletygarwch.
“Mae’r rhethreg y mae ein busnesau twristiaeth a lletygarwch yn gorfod ymdopi â hi gan rai, er gwaethaf yr heriau sy’n eu hwynebu, wedi arwain at rai yn troi eu cefn ar yrfa o’r fath yn lleol. Mae hyn yn siomedig dros ben, yn enwedig o ystyried eu bod yn y lleoliad perffaith i ddysgu sgiliau bywyd hanfodol.
“Felly, rwy’n falch tu hwnt o glywed y bydd y prosiect yn ceisio adeiladu rhwydwaith lleol o ddoniau i fynd i’r afael â’r her recriwtio ac y bydd cymhorthdal yn cael ei gynnig i gadw’r doniau y tu allan i’r tymor.
“Gyda mwy o ymwelwyr eisiau teithio i un o gyrchfannau hyfrytaf Cymru yn dilyn sylw ysblennydd ar gyfresi fel The Pier gan ITV, mae’n amlwg bod hwn yn gyfnod cyffrous o ddatblygiad ar gyfer ein busnesau lleol sy’n gweithio mor galed.”
DIWEDD
Nodiadau i Olygyddion:
Bydd y prosiect yn ceisio darparu:
- Hyb Arloesi: gofod cydweithio canol tref i arloesi.
- Rhaglen arloesi: Gweithgareddau sy’n mynd i’r afael â themâu newydd o fewn y sector, gan gynnwys Adfywio Trefi drwy Dwristiaeth, Twristiaeth Sero-Net, Meithrin Doniau ar gyfer y Dyfodol ac Ymestyn y Tymor.
- Safleoedd ‘gwib’: Mewn partneriaeth â Mostyn Estates, bydd cymhorthdal ar gyfer safleoedd busnes newydd ar gael, gan gynnwys unedau siop i brofi cynhyrchion newydd ar y farchnad a lle i egin-fusnesau.
- Meithrin Rhwydwaith Doniau: Gweithgareddau i ymgysylltu â darparwyr twristiaeth allweddol a’r sector twristiaeth ehangach. Gan weithio mewn dull partneriaeth, fformiwleiddio hyfforddiant wedi’i dargedu a datblygu sgiliau i fynd i’r afael â’r her recriwtio a gwneud y diwydiant yn fwy atyniadol.
Ffotograff: Janet Finch-Saunders AS