Mae Janet Finch-Saunders AS - Aelod o’r Senedd dros Aberconwy - wedi croesawu pleidlais gan Bwyllgor Cyngor Bwrdeistref Sirol Conwy i wrthod cais gan Network Rail i gau llwybr troed Rhif 73 yn Neganwy
Clywodd y Pwyllgor Trwyddedu Cyffredinol Arbennig gan randdeiliaid amrywiol yn ystod y cyfarfod, gan gynnwys Network Rail a Mr Robin Millar AS, cyn pleidleisio ar Orchymyn Diddymu Croesfan Rheilffordd Llwybr Cyhoeddus o dan Adran 118A Deddf Priffyrdd 1980. Cyflwynodd Network Rail y cais ym mis Mawrth 2021.
Mae Mrs Finch-Saunders wedi bod yn ymgyrchu ar y mater ers dros un ar ddeg mlynedd. Yn 2019, penderfynodd Arolygiaeth Cynllunio Cymru bod hawl tramwy cyhoeddus yn parhau o hyd ar y groesfan rheilffordd yn Warren Drive/Ffordd Glan y Môr. Gan roi tystiolaeth i’r Pwyllgor heddiw, anogodd Mrs Finch-Saunders y Cyngor i ddangos menter yn hytrach na gadael y penderfyniad i Lywodraeth Cymru ym Mae Caerdydd.
Yn rhoi sylwadau ar ei chyfraniad, dywedodd Janet:
“Ar ôl cyflwyno sawl achos i’r awdurdod lleol, rwy’n croesawu’r penderfyniad gan y Pwyllgor Trwyddedu Cyffredinol Arbennig sydd wedi sicrhau bod safbwyntiau a phryderon preswylwyr a busnesau’n cael eu cydnabod.
“Dengys tystiolaeth hanesyddol bod y groesfan hon wedi’i defnyddio ers canrifoedd, gyda mynediad cyhoeddus ar draws y rheilffordd ar y pwynt hwn wedi’i hwyluso gan Network Rail yn y gorffennol. Dyna pam mae angen sicrhau bod pob opsiwn i hwyluso croesfan yn cael eu cadw ar agor.
“Roedd y cais hwn i gau yn offeryn creulon a diangen a fyddai wedi bod yn gryn ergyd i’r gymuned, yn enwedig gan ein bod wedi gweithio’n ddiflino i ddiwygio map terfynol yr ardal fel ei fod yn cynnwys llwybr cyhoeddus lle profwyd bod y groesfan yn hawl tramwy cyhoeddus.
“Rwyf wedi dweud ers tro ei bod yn ymarferol resymol gwneud y groesfan yn ddiogel. Yn wir, yn ôl Adroddiad Asesu Effaith Croesfan Llwybr Tywyn gan Network Rail, gallai cau drwy wyriad i bont droed gyda grisiau gael gwared â phob risg. Fodd bynnag, mae hynny wedi’i ddiystyru’n rhy gyflym ar sail diffyg rhesymu.
“Rwy’n cefnogi’r asesiad a ddarparwyd gan aelod o’r Sefydliad Cynllunio Trefol Brenhinol yng Nghymru y byddai oddeutu 2.65 miliwn yn croesi’r bont yn ystod oes dyluniad o 50 mlynedd sy’n golygu y byddai’r gost fesul croesiad oddeutu £0.56. Bydd penderfyniad heddiw yn galluogi’r Awdurdod Lleol i weithio gyda rhanddeiliaid, gan gynnwys Network Rail, i ddatblygu a rhoi costau llawn ar gyfer pont gerdded gyda grisiau.”
DIWEDD
Ffoto: Janet Finch-Saunders AS yn mynychu’r cyfarfod.