A hithau’n ymgyrchydd brwd dros warchod ac adfer gwelyau cyllyll môr yn Llanfairfechan a Phenmaenmawr, mae Janet Finch-Saunders AS - yr Aelod o’r Senedd dros Aberconwy - wedi croesawu’r newyddion bod Hysbysiad Cyhoeddus pellach wedi’i gyhoeddi, yn unol ag Is-ddeddf 16 yr hen Bwyllgor Pysgodfeydd Môr Gogledd Orllewin Lloegr a Gogledd Cymru, y bydd yr ardaloedd hyn yn cael eu cau ar gyfer gweithgareddau casglu am flwyddyn arall.
Bydd yr Hysbysiad Cyhoeddus yn dod i rym am 00:01 ar 1 Ionawr 2022 hyd 23@59 ar 31 Rhagfyr 2022. Yr ardaloedd a fydd yn cael eu cau gan yr hysbysiad hwn yw traethau Llanfairfechan a Phenmaenmawr sydd islaw llinell y Llanwau Seryddol Uchaf, rhwng Afon Llanfairfechan yn y gorllewin a’r Promenâd ym Mhenmaenmawr yn y dwyrain.
Wrth groesawu’r estyniad, dywedodd Janet:
“Ar ôl ysgrifennu sawl gwaith at y Gweinidog i ddwyn i’w sylw’r effaith negyddol iawn roedd casglu cyllyll môr yn ei chael ar y gwelyau lleol, rwy’n falch iawn y bydd y gwaharddiad yn cael ei ymestyn am flwyddyn galendr arall.
“Mae’r gwelyau cyllyll môr hyn yn rhan hollbwysig o’n bioamrywiaeth, ynghyd ag economi dwristiaeth Llanfairfechan. Mae’n hanfodol bod Llywodraeth Cymru yn sicrhau bod y camau hyn yn cael eu defnyddio nawr at ddibenion ymchwil. Mae angen gwneud mwy na dim ond cau’r bysgodfa.
“Hoffwn roi sicrwydd i etholwyr y byddaf yn dal ati i sicrhau bod y mater amgylcheddol pwysig iawn hwn yn aros ym meddyliau’r Gweinidogion hynny ym Mae Caerdydd er mwyn i ni allu diogelu’r gwelyau hyn ar gyfer cenedlaethau’r dyfodol.”
DIWEDD
Nodiadau i Olygyddion:
- Mae fersiynau Cymraeg a Saesneg o’r Hysbysiad Cyhoeddus ynghlwm.