Mae Janet Finch-Saunders AS – yr Aelod o’r Senedd dros Aberconwy – wedi croesawu’r newyddion y bydd Meddygfeydd cyfunol Llys Meddyg a Gyffin, sy’n cael eu rheoli gan y Bwrdd Iechyd ar hyn o bryd, yn dychwelyd i statws meddygfa deulu annibynnol.
Mae’r contract ar gyfer Gwasanaethau Meddygol Cyffredinol yn y meddygfeydd wedi’i ddyfarnu i Bartneriaeth Canolfan Iechyd Plas Menai, sy’n darparu gwasanaethau i bobl sy’n byw yn Llanfairfechan, Penmaenmawr a Dwygyfylchi. Bydd cleifion sydd wedi’u cofrestru â Meddygfeydd Llys Meddyg a Gyffin yn derbyn diweddariad ysgrifenedig gan y Bwrdd Iechyd yn y dyddiau nesaf.
Wrth groesawu’r newyddion, dywedodd Janet:
“Mae cyhoeddiad heddiw yn newyddion da iawn ar gyfer y 7,184 o gleifion sy’n perthyn i feddygfeydd cyfunol Llys Meddyg a Gyffin. Rwy’n gobeithio y bydd y newid hwn i drefniadau rheoli’n gam cadarnhaol yn y cyfeiriad cywir i’r meddygfeydd a fydd yn galluogi i fwy o gleifion gael eu gweld yn gynt ac yn fwy personol.
“Gyda’r contract newydd yn dechrau ar 1 Chwefror, a chyda’r newyddion bod y gwasanaethau’n cael eu harwain gan bartneriaeth leol sefydledig bellach, gallaf sicrhau etholwyr a staff y meddygfeydd y byddaf yn cadw llygad barcud ar y newidiadau er mwyn sicrhau bod popeth yn digwydd mor rhwydd â phosibl.
“Rwy’n cydnabod, law yn llaw â’r cyhoeddiad hwn, bod y Bwrdd Iechyd wedi cymeradwyo cyflwyno Achos Amlinellol Strategol i geisio buddsoddiad gan Lywodraeth Cymru i wella cyfleusterau gofal sylfaenol ar gyfer y meddygfeydd yng Nghonwy, gan gynnwys cyd-leoli gwasanaethau fel iechyd meddwl, ymweliadau iechyd a nyrsio dosbarth gyda gofal sylfaenol.
“Law yn llaw â thrafodaethau parhaus â meddygon teulu lleol, ynghyd â’m hymgyrch faith i adfer gwasanaeth gweithwyr cymorth iechyd meddwl ymroddedig o fewn meddygfeydd i helpu i ddod â diwedd i’r duedd druenus o droi at feddyginiaethau’n unig, gallaf sicrhau etholwyr y byddaf yn ceisio adolygu’r achos hwn gyda swyddogion y Bwrdd Iechyd.”
Os oes gan gleifion y meddygfeydd hyn unrhyw gwestiynau neu bryderon, dylent e-bostio’r Tîm Rheoli Ardal yn BCU.ConwyPrimaryCare@wales.nhs.uk. Fel arall, gallwch adael neges ar y peiriant ateb yn 03000 851926.
DIWEDD
Nodiadau i olygyddion:
- Mae copi o’r llythyr i breswylwyr ynghlwm.
Llun: gan Sasun Bughdaryan ar Unsplash