Mewn cwestiwn amserol i’r Prif Weinidog, mae Janet Finch-Saunders AS – yr Aelod o’r Senedd dros Aberconwy – wedi erfyn ar Lywodraeth Cymru i ymgysylltu â chymunedau i helpu i nodi pwyntiau yn y seilwaith sydd mewn perygl, ynghyd ag ystyried cyflwyno cronfa wrth gefn i gefnogi awdurdodau lleol yn sgil difrod eto fyth ar ôl tywydd stormus.
Daw’r ymyrraeth yn dilyn llythyr gan Janet at Arweinydd Cyngor Bwrdeistref Sirol Conwy a Gweinidog Newid Hinsawdd Llywodraeth Cymru, ddoe, i adolygu a oes asesiad wedi’i gynnal i’r difrod a wnaed i lwybr arfordirol a morglawdd Llanfairfechan a pha gymorth ariannol fydd ar gael.
Yn rhoi sylwadau y tu allan i’r Siambr, dywedodd Janet:
“Y penwythnos diwethaf, roedd trefi a chymunedau ledled Cymru yn paratoi ar gyfer tywydd stormus garw unwaith eto, gyda llwybr arfordir a morglawdd Llanfairfechan yn cael eu difrodi am yr eilwaith mewn pythefnos.
“Mae’n profi canfyddiadau trydydd Asesiad Risg Newid Hinsawdd y DU bod angen rhagor o weithredu i fynd i’r afael ag effeithiau newid hinsawdd, yn enwedig llifogydd mwy rheolaidd ac erydu arfordirol, sy’n achosi difrod i seilwaith hanfodol ac amddiffynnol.
“Er fy mod yn canmol Cyngor Bwrdeistref Sirol Conwy am gymryd camau i achub y blaen drwy gau’r llifddorau, mae’r achos hwn yn dangos pam mae angen i Lywodraeth Cymru adolygu ei hymgysylltu â chymunedau er mwyn nodi pwyntiau yn y seilwaith sydd mewn perygl a pham y dylent ystyried cyflwyno cronfa wrth gefn i gefnogi awdurdodau lleol yn sgil difrod storm.”
Ym mis Mehefin, datgelodd mapiau a gynhyrchwyd gan Climate Central bod Dyffryn Conwy ger Llanrwst mewn perygl o nifer cynyddol o lifogydd o ganlyniad uniongyrchol i newid hinsawdd. Bydd mentrau twristiaeth arfordirol a rhannau o Eryri hefyd yn fregus, yn ôl eu canfyddiadau.
DIWEDD
Ffotograff: Janet Finch-Saunders AS