Mae Janet Finch-Saunders AS – Aelod o’r Senedd dros Aberconwy – wedi siarad am ei sioc ynghylch y gost sy’n wynebu Llywodraeth Cymru wrth ddatblygu a chyflwyno Deddf Plant (Diddymu Amddiffyniad Cosb Resymol) (Cymru) 2020.
Yn ôl ymateb Rhyddid Gwybodaeth a gafwyd gan ei swyddfa, gwariodd Llywodraeth Cymru £1,650.098 ar ddatblygu a chyflwyno’r Ddeddf rhwng mis Mai 2016 a 4 Ionawr 2022.
Yng nghyd-destun y gwariant hwn, ystyriwyd bod gwariant yn golygu anfonebau a dalwyd am nwyddau neu wasanaethau a hawliadau grant a dalwyd. Nid yw’r ffigur a ddarparwyd yn cynnwys ymrwymiadau ariannol neu gostau cyfle.
Wrth sôn am y costau, dywedodd Janet:
“Mae’n anhygoel bod mwy na miliwn a hanner o bunnoedd o arian trethdalwyr wedi’i wario ar yr ymyriad hwn sy’n labelu rhieni da yn droseddwyr yn afresymol ac sy’n tarfu’n ormodol ar fywyd teuluol.
“Er ein bod yn parhau i geisio creu’r amgylchedd mwyaf diogel bosibl i’n plant yma yng Nghymru, yn hytrach na chyflwyno ychwanegiadau diangen at y llyfr statud, gallai’r arian hwn fod wedi cefnogi’r gwasanaethau cymdeithasol sydd eisoes dan bwysau ac addysg.
“Ar ôl arwain y gwrthwynebiad i’r Ddeddf hon yn ystod y Senedd ddiwethaf, gallaf eich sicrhau y byddaf yn dal ati i archwilio ei heffaith ar gymdeithas.”
DIWEDD
Nodiadau i Olygyddion:
Llun: Janet Finch-Saunders AS