Ar ddathliad canmlwyddiant yr Urdd, mae Janet Finch-Saunders, Aelod Senedd Cymru Aberconwy, wedi diolch i’r mudiad am y cyfraniad sylweddol i’r iaith a bywydau phlant a phobl ifanc Cymru.
Sefydlwyd yr Urdd ym 1922 gan Syr Ifan ab Owen Edwards efo’r bwriad o roi rhagor o gyfleodd i blant yng Nghymru i ddefnyddio'r Gymraeg.
Ar y diwrnod yma o ddathliadau, dywedodd Janet:
“Diolch o galon i’r Urdd am y cyfraniad sylweddol mae’r mudiad wedi ac yn parhau i neud i fywydau plant a phobl ifanc ledled Cymru.
“Ardraws Aberconwy mae cystadlu brwd wedi bod ers blynyddoedd yn yr eisteddfodau cylch, sir, ac wrth gwrs y genedlaethol.
“Dwi wedi gweld fy hun y pleser mae’r mudiad yn dod i blant, ac yn cofio’r hwyl a sbri oedd i gael yn y jambori efo Mr Urdd a chymeriadau enwog eraill, fel Sali Mali, sydd efo cysylltiad unigryw iawn i Aberconwy!
“Rydym angen cyrraedd y targed o un filiwn o siaradwyr Cymraeg erbyn 2050, a dwi’n sicr y bod gan yr Urdd rôl bwysig i chwarae yn hyn, a sicrhau bod pawb yn cael cyfle i ddefnyddio’r iaith tu allan i’r ysgol.
“Hoffwn ddymuno pob lwc i’r mudiad. Mawr obeithiaf y bod canrif ddisglair arall o’ch blaen, ac y bydd wastad ‘hwyl i'w gael ym mhobman yn dy gwmni’”.
DIWEDD
Llun: Janet Finch-Saunders AS