Dros dair wythnos ers ei hymyriad angerddol i'r Prif Weinidog, pan dynnodd sylw at yr angen am Gronfa Ganslo i fynd i'r afael â newid mewn ymddygiad defnyddwyr, mae Janet Finch-Saunders AS wedi annog Llywodraeth Cymru i adolygu ffenestr y cymorth ariannol fel y gellir cyflwyno ceisiadau ar frys.
Yn dilyn galwadau'r Aelod, cyhoeddodd Llywodraeth Cymru gylch newydd o'r Gronfa Cadernid Economaidd, ar gyfer y busnesau lletygarwch, hamdden ac atyniadau hynny sydd wedi'u "heffeithio'n sylweddol" gan ostyngiad o fwy na 60% yn eu trosiant rhwng 13 Rhagfyr 2021 a 14 Chwefror 2022. Fodd bynnag, ni fydd y Gronfa yn derbyn ceisiadau tan yr wythnos sy'n dechrau ar 17 Ionawr.
Yn y cyfamser, nid yw dwy elfen ar wahân o gymorth ariannol i'w gweinyddu gan awdurdodau lleol yn derbyn cofrestriadau na cheisiadau tan yr wythnos sy'n dechrau ar 10 Ionawr chwaith. Mae mwy a mwy o bobl yn canslo archebion gyda bwytai a busnesau llety gwyliau wrth i'r wlad barhau i fynd i'r afael ag amrywiolyn newydd Omicron
Mewn ymateb, dywedodd Janet:
“Wrth i ni symud ymlaen i'r flwyddyn newydd, mae ton o ganslo yn parhau i frathu ein sectorau lletygarwch a thwristiaeth. Er ei bod yn ddealladwy bod ymddygiad defnyddwyr wedi newid dros y mis diwethaf, mae'r straen digynsail sy'n wynebu busnesau yn peryglu bywoliaeth a chyfleoedd gwaith.
“Y mis diwethaf, wrth ateb i’m cwestiwn ar fater cymorth ariannol, roeddwn i'n falch o weld bod y Llywodraeth ddatganoledig yn barod i dderbyn yr angen am gymorth. Fodd bynnag, mae'r amserlen bresennol ar gyfer ceisiadau ERF yn y pen draw yn methu â chydnabod yr angen dybryd am gymorth ariannol o gofio bod y busnesau hyn eisoes wedi dioddef bron i fis o fasnach dan gyfyngiadau.
“Wrth drafod gyda busnesau lleol, mae'n amlwg bod angen eglurder ynglŷn â pham mae angen gostyngiad o 60% pan fyddwn yn gwybod y gall gostyngiad llawer llai fod yn niweidiol iawn. Mae hyn yn arbennig o wir o gofio bod oddeutu 25% o drosiant blynyddol busnes yn gallu digwydd adeg y Dolig.
“Wrth gydnabod y ffeithiau hyn, rwy'n annog Llywodraeth Cymru i gyflwyno dyddiadau cynharach ar gyfer agor cymorth ariannol ac adolygu'r meini prawf cymhwystra. Rhaid darparu cymorth nawr fel y gall busnesau Aberconwy bontio'r cyfnod hwn.”
DIWEDD