Gan ddatgelu mai heddiw oedd ei chyfraniad ‘tristaf’ yn ystod ei hamser yn y Senedd wrth iddi siarad ar sgandal oedi cyn cyhoeddi Adroddiad Holden, mae Janet Finch-Saunders AS – yr Aelod o’r Senedd dros Aberconwy - wedi galw ar Lywodraeth Cymru i’w gwneud yn ofynnol i bob bwrdd iechyd gyhoeddi adroddiadau yn rheolaidd ac yn amserol yn y dyfodol.
Daw ei hymyrraeth ar ôl mynegi pryderon am y ffordd yr aeth Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr i’r afael ag Adroddiad Holden, wyth mlynedd ar ôl ei gwblhau. Ar sail y dystiolaeth a ddarparwyd gan y rhai a gyfwelwyd yn ystod yr ymchwiliad a gynhaliwyd yn 2013, datgelodd yr adroddiad y bu chwalfa yn y berthynas rhwng staff a rheolwyr ar Uned Hergest, Ysbyty Gwynedd, gan roi cleifion mewn perygl. Mewn diwylliant o fwlio a morâl isel, daeth hefyd i’r casgliad nad oedd pryderon am ddiogelwch cleifion wedi’u datrys.
Gan siarad ar ôl ei chyfraniad, dywedodd Janet:
“Dylai’r dystiolaeth ysgytwol am staff rheng flaen yn gorweithio yn Adroddiad Holden roi digon o waith cnoi cil i’r holl swyddogion. Mae’n gwbl annerbyniol bod adroddiad mor bwysig â hwn, a luniwyd ar sail 700 tudalen o dystiolaeth gan 45 aelod o staff, wedi’i gadw o lygad y cyhoedd cyhyd.
“Yn ystod cyfarfod gyda Chadeirydd a Phrif Weithredwr y Bwrdd Iechyd yr wythnos diwethaf, cefais sicrwydd y bydd adroddiadau yn y dyfodol yn cael eu hysgrifennu, gyda chyhoeddi i’r cyhoedd mewn golwg. Fodd bynnag, gobeithio y bydd Llywodraeth Cymru nawr yn ceisio ei gwneud yn ofynnol i bob bwrdd iechyd gyhoeddi adroddiadau yn rheolaidd ac yn amserol, er mwyn gwella tryloywder ac ymddiriedaeth ymhlith cleifion.
“Rydw i ers tro byd wedi codi pryderon am ganfyddiadau adroddiad Holden, a oedd yn cynnwys nodiadau helaeth ar brinder staff ar wardiau i’r pwynt bod gofal corfforol sylfaenol a sylw i hylendid personol yn cael eu hesgeuluso – gyda hynny ond megis crafu'r wyneb o ran problemau’r Bwrdd Iechyd.
“Yn wir, mae staff rheng flaen o fewn Gwasanaethau Iechyd Meddwl Pobl Hŷn wedi adrodd yn gyson bryderon sylweddol ynghylch lefelau staffio a diffyg ymgysylltu gyda’r tîm uwch reolwyr o fewn iechyd meddwl.
“Yn adeiladol, law yn llaw â Strategaeth Iechyd Meddwl 10 mlynedd ar ei newydd wedd, roeddwn i’n falch o sefyll gyda fy nghydweithwyr yn y Ceidwadwyr Cymreig i alw am Ddeddf Iechyd Meddwl newydd a fyddai’n diweddaru’r ddeddfwriaeth ac yn ceisio datrys y problemau a godwyd ynghylch darpariaeth iechyd meddwl yn y Gogledd.
“Dydw i byth eto eisiau codi a siarad yn y Senedd i ddadlau am fethiannau camreoli mor ddifrifol. Fel Aelod sydd wedi bod o gwmpas am fwy nag un tymor, gallaf ddweud yn bendant mai dyma un o’r cyfraniadau tristaf i mi orfod ei wneud. Hyderaf y bydd y Gweinidog yn cynnig ymddiheuriad ffurfiol i’r cleifion, eu teuluoedd a’r staff yr effeithiwyd arnynt.”
DIWEDD
Ffotograff: gan Hush Naidoo Jade Photography ar Unsplash