Wrth fynnu datganiad brys gan Lywodraeth Cymru, mae Janet Finch-Saunders, yr Aelod o'r Senedd dros Aberconwy, wedi tanlinellu'r pwysau sy'n wynebu practisau meddygon teulu lleol oherwydd bod trigolion yn cael trafferth cael gafael ar ofal deintyddol y GIG. Cafwyd galwadau tebyg i weithredu gan aelodau Llafur Cymru, Alun Davies AS a Huw Irranca-Davies AS, hefyd.
Yn ystod trafodaethau diweddar gyda meddygon teulu, amlinellwyd sut mae rhai meddygfeydd yn mynd ati i hyfforddi eu derbynyddion fel swyddogion llywio gofal a fydd yn eu helpu i ailgyfeirio cleifion i wasanaethau mwy addas lle bo'r angen, fel optegwyr a deintyddion. Erbyn hyn, mae ofnau y gallai'r broses hon gael ei thanseilio oherwydd rhestrau aros hir a’r ffaith nad yw practisau’n derbyn cleifion newydd.
Er bod nifer y deintyddion yn rhanbarth y Gogledd wedi cynyddu 1% y llynedd, mae nifer cyfwerth ag un o bob 20 wedi gadael y proffesiwn ers 2019. Ledled Cymru gyfan, roedd 83 yn llai o ddeintyddion yn gweithio i fyrddau iechyd yn 2021 nag yn 2020.
Wrth sôn am y broblem, dywedodd Janet:
“Rwy'n hynod siomedig gyda'r ffordd mae Llywodraeth Cymru dan arweiniad Llafur wedi ymddwyn tuag at ddeintyddion a'u cleifion yn ystod pandemig y coronafeirws. Yn aml, roedd eu hagwedd at y gwasanaeth iechyd hanfodol hwn yn teimlo fel ôl-ystyriaeth.
“Er gwaethaf cyfeiriad amwys Llywodraeth Cymru at hwb ariannol sylweddol i ddeintyddiaeth Cymru yn ystod y sesiwn lawn ddoe, mae fy mewnflwch e-bost yn profi bod diffyg mynediad o hyd i blant, oedolion a phensiynwyr, gyda llawer yn cysylltu â'm swyddfa heb wybod lle i droi.
“Yn ystod trafodaethau diweddar gyda gweithwyr gofal iechyd proffesiynol ac ymweliadau â'n meddygfeydd, nodwyd yn glir eu bod nhw dan straen aruthrol wrth i bractisau dderbyn mwy a mwy o geisiadau am apwyntiad gan bobl sydd mewn poen difrifol. Mae'n amlwg bod angen eglurder o ran lle mae'r arian hwn wedi'i wario a pha gamau fydd yn cael eu cymryd ar unwaith i leddfu'r pwysau.
“Er bod yr Uned Addysgu Deintyddol ym Mangor yn gam i'r cyfeiriad cywir, ac yn un a fydd, gobeithio, yn helpu i gynyddu nifer y deintyddion sy'n gweithio'n lleol, rwy'n dal i ddweud bod Llywodraeth Cymru wedi anwybyddu'r sector hwn yn rhy hir o lawer. Rhaid inni roi sylw i rybuddion y gallai'r ôl-groniad presennol arwain at don o broblemau deintyddol yn y dyfodol."
Gallwch gofnodi'ch profiad o'r ddarpariaeth ddeintyddol trwy fynd i [www.janetfinchsaunders.org.uk/healthsurvey]www.janetfinchsaunders.org.u….
DIWEDD
Llun: gan Atikah Akhtar ar Unsplash