I nodi Diwrnod Canser Pancreatig y Byd, mae Janet Finch-Saunders AS – Aelod o’r Senedd Aberconwy – wedi galw am dryloywder gan Lywodraeth Cymru ynghylch pa gamau sy’n cael eu cymryd i gynyddu cyfraddau presgripsiwn Therapi Amnewid Ensym Pancreatig (PERT) yng Nghymru. Daeth yr ymyrraeth ar ffurf Cwestiwn Ysgrifenedig.
Mae canser pancreatig yn effeithio ar bron i 500 o bobl ledled Cymru bob blwyddyn, ac mae tri o bob pump o’r bobl hyn yn cael diagnosis hwyr. Mae symptomau canser pancreatig yn cael effaith wael ar bobl - yn aml dydyn nhw ddim yn gallu treulio eu bwyd, sy’n arwain at golli pwysau yn gyflym a cholli màs y cyhyrau.
Tabled yw PERT i’w gymryd gyda bwyd sy’n cymryd lle’r ensymau treulio na all pobl gyda chanser pancreatig eu cynhyrchu mwyach. Yn ôl arolwg ledled y DU gan Pancreatic Cancer UK yn ddiweddar, teimlai 3 o bob 4 o bobl sy’n byw gyda’r canser bod PERT yn gwella ansawdd eu bywydau.
Wrth sôn am ei Chwestiwn Ysgrifenedig, dywedodd Janet:
“Yn ôl ystadegau a gafwyd gan Pancreatic Cancer UK drwy’r Grŵp Astudio RICOCHET a’r West Midlands Research Collaborative, dim ond 3 o bob 5 o bobl sy’n byw gyda chanser pancreatig yng Nghymru sy’n cael PERT ar bresgripsiwn. Mae hyn er y ffaith bod canllawiau NICE yn argymell y cyffur ar gyfer pobl gyda chanser pancreatig sy’n addas ar gyfer llawdriniaeth a’r rhai sydd ddim.
“Yn rhannol, diffyg ymwybyddiaeth tybiedig o PERT ymysg gweithwyr gofal iechyd proffesiynol a’r cam y mae pobl gyda chanser pancreatig yn cael diagnosis sydd wrth wraidd y broblem gyda’r lefelau presgripsiwn. Yn wir, rwyf ar ddeall y gall fod yn anodd rhoi diagnosis cynnar yn achos y canser penodol hwn.
“Pan fo cleifion yn cael diagnosis, mae’n hanfodol eu bod yn cael eu cyfeirio ar unwaith at wasanaethau triniaeth. Yn dilyn fy ymyriadau diweddar yn galw ar gau'r bwlch rhwng diagnosis a thriniaeth, rwyf bellach wedi galw am dryloywder gan Lywodraeth Cymru ynghylch pa gamau y dylid eu cymryd i wella cyfraddau presgripsiwn PERT ledled y genedl.”
DIWEDD
Nodiadau i olygyddion:
- Cwestiwn Ysgrifenedig: Pa gamau y mae Llywodraeth Cymru yn eu cymryd mewn partneriaeth â chlinigwyr i wella cyfraddau presgripsiwn therapi amnewid ensym pancreatig yng Nghymru?