Mae Aelod Senedd Cymru dros Aberconwy - Janet Finch-Saunders AS - wedi mynegi pryderon yn dilyn sylwadau gan Weinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol Llywodraeth Cymru ynghylch ciwio i gael brechiad atgyfnerthu yn erbyn y Coronafeirws pan ddywedodd nad oeddent am weld pobl yn rhynnu y tu allan yng nghanol gaeaf, fel sy’n digwydd yn Lloegr.
Mae Mrs Finch-Saunders wedi beirniadu’r datganiad fel un “allan ohoni” ar ôl codi’r mater o giwio hir mewn tywydd gaeafol yn gyson gyda Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr. Yr wythnos hon, derbyniwyd ateb ffurfiol gan y Bwrdd Iechyd a oedd yn ymrwymo i adolygu mesurau cadw pellter cymdeithasol yn ystod cyfnodau o dywydd gwael.
Wrth ymateb i’r datganiad, dywedodd Janet:
“Mae’r sylwadau hyn gymaint allan ohoni gan y Gweinidog Iechyd gan eu bod yn methu â chydnabod y sefyllfa wirioneddol ar lawr gwlad, gyda llawer iawn o gleifion mewn oed ac agored i niwed yn aros yn amyneddgar mwn tywydd oer a gwlyb yn yr awyr agored i dderbyn eu brechiad atgyfnerthu.
“Gyda thywydd gaeafol anodd a stormus wedi taro’r etholaeth yn ddiweddar, a’r tymheredd i fod i ostwng ymhellach, rwyf wedi derbyn mwy a mwy o ohebiaeth gan etholwyr yn mynegi eu pryderon am giwiau hir y tu allan i ganolfannau brechu.
“Ar ôl ysgrifennu at y Bwrdd Iechyd am y mater hwn, rwy’n croesawu cadarnhad y bydd y staff yn barod i leihau’r pellter cymdeithasol a weithredir yn y lleoliad o’r 2 fetr arferol i 1.5 metr mewn tywydd gwael. Bydd hyn yn sicrhau y bydd mwy o bobl yn gallu bod o dan do wrth aros am eu brechiad.
“Gyda’r ymgyrch frechu yn debygol o gyflymu, mae’n hanfodol bod Llywodraeth Cymru’n rhoi adnoddau angenrheidiol i fyrddau iechyd allu derbyn a gweld llawer iawn o drigolion waeth beth fo’r tywydd. Ar hyn o bryd, rydym yn gweld gweinyddiaeth sy’n gwbl benderfynol o osgoi bai a chyfrifoldeb yn lle hynny.”
DIWEDD
Llun: Daniel Schludi/Unsplash