Wrth estyn ei llongyfarchiadau cynhesaf i'w Mawrhydi y Frenhines ar achlysur 70 mlynedd ers iddi esgyn i'r orsedd (6 Chwefror), mae Janet Finch-Saunders, AS Aberconwy, wedi annog Aelodau’r Senedd i ysgrifennu at gynghorau cymuned a thref ar draws eu hetholaethau er mwyn ysbrydoli pobl i gymryd rhan ym menter 'Canopi Gwyrdd y Frenhines'.
Yn Aberconwy, mae trigolion wedi cael y fraint o bresenoldeb Ei Mawrhydi ar sawl achlysur. Mynychodd Eisteddfod Genedlaethol Llandudno ym 1963, agorodd Dwnnel Conwy ym 1991 ochr yn ochr â'r diweddar Syr Wyn Roberts o Gonwy, ac ymwelodd â Venue Cymru yn 2010.
Ar ôl defnyddio'r cyfraniad i annog y Llywydd i ysgrifennu llythyr o longyfarchiadau i'r Frenhines ar ran Aelodau'r Senedd, roedd Janet hefyd yn falch iawn o gael cadarnhad y bydd hyn yn digwydd nawr.
Wrth sôn am ei haraith, dywedodd Janet:
“Mae gan y Frenhines rôl ganolog yn ein cyfansoddiad ni. O dan athrawiaeth gwahanu pwerau, rhennir llywodraethu gwladwriaeth yn dair cangen, pob un â’i phwerau a chyfrifoldebau ar wahân ac annibynnol. I Gymru, mae hyn yn cynnwys y Goron a dwy lywodraeth.
“Bu'n gymaint o anrhydedd cwrdd â'i Mawrhydi ar dri achlysur yn ystod fy nghyfnod yn y Senedd, drwy'r agoriadau brenhinol. Rhaid inni beidio ag anghofio bod pob Deddf sy'n deillio o'r Senedd hon yn cael ei chymeradwyo ganddi, sy'n golygu bod effaith y Goron ar Gymru yn llawer mwy nag y gallem ei fesur erioed.
“Rwy'n cofio Ei Mawrhydi yn ymweld â Llandudno, brenhines trefi glân môr Cymru, fel rhan o daith y Jiwbilî Arian ym 1977. Roedd yr haul yn tywynnu, a'r promenâd dan ei sang gyda phobl leol ac ymwelwyr eisiau cael cipolwg ar y pâr brenhinol. Mae ein parch a'n cariad ati wedi tyfu fwy fyth ers hynny.
“Fel Gweinidog yr Wrthblaid dros Newid Hinsawdd, roeddwn yn falch iawn o ddefnyddio'r cyfle hwn i annog yr holl Aelodau i ysgrifennu at gynghorau cymuned a thref ar draws eu hetholaethau a'u hysbrydoli i gymryd rhan yn ym mhrosiect Canopi Gwyrdd y Frenhines. Mae'n siŵr y gwelwn bartïon stryd di-ri yn ystod y gŵyl banc pedwar diwrnod, a bydd y coed a blannwn yn byw am ganrifoedd i ddod.
“Rwy'n mawr obeithio y bydd Ei Mawrhydi yn mwynhau digwyddiad bythgofiadwy i ddathlu ei 70 mlynedd gogoneddus, a llawer mwy ohonynt gobeithio, ar yr orsedd. Llongyfarchiadau, Eich Mawrhydi!”
Y Frenhines yw noddwr Brenhinol neu Lywydd tua 600 o elusennau ac mae'n cyflawni'r cyfrifoldebau hyn gyda chryn frwdfrydedd. Mae 14 o'r rheini wedi'u lleoli yma yng Nghymru, gan gynnwys Undeb Golff Cymru, Cymdeithas Amaethyddol Frenhinol Cymru, Cymdeithas Bêl-droed Cymru a Fields in Trust.
DIWEDD
Llun: Janet Finch-Saunders AS