Wrth barhau i fwrw'r maen i'r wal drwy ohebu â Llywodraeth Cymru, mae Janet Finch-Saunders AS Aberconwy wedi croesawu'r newydd y bydd asesiad ynghylch croesfan i gerddwyr yn cael ei gynnal ar gyfer Llwyn Brith, Llanrwst.
Bydd camau pellach yn cael eu cymryd, yn ôl llythyr gan y Dirprwy Weinidog unwaith y bydd fersiwn derfynol wedi dod i law. O ran pryderon eraill am ddiogelwch y ffordd dan sylw, ysgrifennodd Lee Waters AS:
“Mewn perthynas ag asesu'r llwybr cerdded i'r ysgol a gofyn am derfyn cyflymder rhan-amser o 20mya, mae'r asesiad hwnnw wedi dod i'r casgliad ac yn nodi bod Llywodraeth Cymru yn gweithio tuag at derfyn cyflymder diofyn cenedlaethol o 20 mya a ddaw i rym ledled Cymru yn 2023. Mae hyn yn golygu y byddai pob ffordd gyfyngedig (rhai â goleuadau stryd) yng Nghymru sy'n destun terfyn cyflymder ffordd 30mya ar hyn o bryd, yn dod yn ffyrdd 20mya yn ddiofyn.
Wrth sôn am y llythyr a dderbyniwyd, dywedodd Janet:
“Ar ôl gweithio ar y mater difrifol hwn o ddiogelwch ar y ffyrdd drwy'r Senedd flaenorol a thrwodd i'r tymor newydd hwn, rwy'n falch fy mod wedi cael llythyr cynnydd cadarnhaol gan Lywodraeth Cymru sy'n cadarnhau bod yr asesiad croesfan i gerddwyr wedi'i gynnal ac yn aros am ddrafft terfynol.
“Er y siom bod cymaint o amser wedi pasio ers tynnu sylw at y pryder hwn yn gyntaf, rwy'n derbyn i’r asesiad orfod cael ei oedi er mwyn sicrhau nad oedd llif teithwyr lleol yn cael ei effeithio gan y pandemig. Mae'n hanfodol bod unrhyw gynnydd ar y mater hwn yn cydnabod yr angen am newid, fel rwy’n siŵr y bydd y data yn ei ddangos.
“Mae'r broblem hon yn dal i boeni trigolion o boptu'r A470, sy'n wynebu'r her o groesi'r briffordd yn ddiogel bob dydd. Gan weithio law yn llaw â'r gymuned leol, rwyf wedi ymrwymo i wthio Llywodraeth Cymru i ddarparu ateb synhwyrol a hirdymor sydd o fudd i ddefnyddwyr y ffordd a cherddwyr, gan amddiffyn ein plant a'n pobl sy'n agored i niwed.”
DIWEDD
Nodiadau i Olygyddion:
- Gweler copi o'r llythyr atodedig.
Llun: Janet Finch-Saunders AS