Mae’n arwydd cadarnhaol o gynnydd bod Mrs Finch-Saunders wedi derbyn cadarnhad bod falf dim-dychwelyd (NRV) wedi’i gosod a bod y sefydliad yn ailystyried ymarferoldeb gosod ail NRV ar y briffordd hefyd. Mae ymchwiliad ar waith hefyd i’r llif yn yr orsaf pwmpio carthffosiaeth.
Cafwyd llifogydd ar y ffordd ar 29 Hydref yn sgil arllwysiad honedig o’r rhwydwaith carthffosiaeth. Mae’n broblem hirsefydlog a bu sawl llifogydd yn ystod 2019 a 2020 hefyd.
Wrth sôn am y newyddion, dywedodd Janet:
“Gydag achosion cynyddol o lifogydd ar Ffordd yr Orsaf, rwyf wedi bod yn falch o gael gweithio mewn cydweithrediad â’r preswylwyr i bwyso am gamau rhagweithiol a fydd yn helpu i fynd i’r afael â’r mater hwn. Yn dilyn cyfarfod safle gyda swyddogion ym mis Rhagfyr, rwy’n falch bod nifer o’r camau targed a addawyd wedi cael eu cyflawni.
“Er na fydd gosod y falfiau NRV hyn yn rhoi sicrwydd y byddant yn atal llifogydd, rwyf wedi fy hysbysu y bydd y gwaith yn helpu i leihau’r risgiau a sicrhau bod yr asedau’n gweithredu hyd eithaf eu gallu. Rwy’n croesawu’r cynnydd hwn yn fawr, a gallaf sicrhau preswylwyr y byddaf yn gofyn am ddiweddariad pellach gan Dŵr Cymru ym mis Chwefror.
“Gallai’r achosion hyn o lifogydd fod yn beryglus i breswylwyr a defnyddwyr y ffordd. Gyda’r Adroddiad Technegol CCRA3 yn cadarnhau bod stormydd eithafol yn debyg o ddod y fwy tebygol yn sgil newid hinsawdd byd-eang, mae’n hanfodol bod mesurau ataliol yn cael eu cyflwyno i leihau unrhyw risg o lifogydd.”
Yn y cyfarfod blaenorol hefyd, ymrwymodd swyddogion o Gyngor Bwrdeistref Sirol Conwy i gynnal asesiad o’r ardal hon sydd mor agored i lifogydd, o ystyried y gellid ystyried addasu’r system ddraenio i ddarparu gylïau ychwanegol ac arllwysfa fwy.
DIWEDD
Llun: Janet Finch-Saunders AS yn y cyfarfod safle.