Mewn ymateb i gwestiwn gan Aelod o’r Senedd dros Aberconwy, a oedd yn erfyn ar Lywodraeth Cymru i adolygu ei rheolau cymhwystra ar gyfer cymorth cyllid busnes i berchnogion llety hunanddarpar, ymrwymodd y Prif Weinidog i edrych ar y mater penodol, gan addo darparu diweddariad ysgrifenedig maes o law.
O dan y meini prawf presennol, ni fydd llety hunanddarpar yn gymwys am y cymorth grant a gynigir oni bai ei fod yn eiddo hunanddarpar ar gyfer 30 o bobl neu fwy, neu fod y llety hunanddarpar yn cael ei ystyried fel canolfan addysg awyr agored. Ar hyn o bryd, nid oes gan awdurdodau lleol bwerau disgresiwn mewn perthynas â’r penderfyniad hwn.
Yn rhoi sylwadau ar yr ymrwymiad cadarnhaol i adolygu’r sefyllfa, dywedodd Janet:
“Mae llawer o berchnogion llety hunanddarpar wedi cysylltu â fy swyddfa mewn anobaith gan nad ydynt yn gallu cael mynediad at gymorth ariannol, er eu bod wedi colli archebion gwerth miloedd. Mae’n gwbl annheg bod Llywodraeth Cymru wedi creu rheol hurt bod yn rhaid i lety hunanddarpar fod ar gyfer 30 o bobl neu fwy.
“Dyna pam fy mod wedi cwestiynu’r Prif Weinidog heddiw, gan erfyn ar ei weinyddiaeth i weithredu ar y materion y gellid eu hosgoi drwy newid y rheolau cymhwystra ar gyfer perchnogion llety hunanddarpar, ynghyd ag ystyried cynyddu’r cyllid sydd ar gael i helpu i achub y sector a swyddi.”
“Mae ein heiddo llety hunanddarpar yn parhau yn rhan annatod a phwysig o’n cynnig i dwristiaid. Byddai’n annerbyniol gweld eu hyfywdra’n cael ei danseilio gan barhad y rheolau afresymol hyn. Rwy’n falch iawn fod y Prif Weinidog wedi ymrwymo i adolygu’r sefyllfa hon o ganlyniad uniongyrchol i fy ymyrraeth i.”
DIWEDD
Ffoto: Janet Finch-Saunders AS