Yn ymgyrchydd angerddol dros welliannau i les anifeiliaid ledled Cymru, mae Janet Finch-Saunders AS – yr Aelod o’r Senedd dros Aberconwy - wedi cyfarfod cynrychiolwyr o Greyhound Rescue Wales i drafod pryderon am fewnforio milgwn i Gymru a’r datblygiadau o ran lles sydd wedi’u gwneud â’r sector rasio milgwn.
Dechreuodd Greyhound Rescue Wales ym 1993 gyda grŵp bach o bobl yn ceisio achub milgwn a chŵn potsiwr yn ardal Abertawe. Ers hynny mae wedi tyfu ac yn denu cefnogaeth ledled Cymru, a daeth yn elusen gofrestredig ym 1996.
Yn rhoi sylwadau ar ôl y cyfarfod, dywedodd Janet:
“Wrth gyfarfod cynrychiolwyr o Greyhound Rescue Wales, roedd hi’n amlwg bod yr anifeiliaid addfwyn, sensitif hyn yn haeddu ein hamddiffyniad gorau. Er y driniaeth greulon amlwg yr oedd rhai wedi’i hwynebu, gan gynnwys milgi hyfryd a oedd wedi colli coes ar ôl cael ei gam-drin, golygodd gwaith anhygoel yr elusen eu bod wedi ail-fagu hyder.
“Er fy mod yn gwybod bod Rhwydwaith Lles Anifeiliaid Cymru wedi cyhoeddi cod ar gyfer lles milgwn rasio, roedd hi’n dipyn o siom i mi na cheisiodd Llywodraeth Cymru fynd ati i sicrhau bod rasio milgwn o fewn cwmpas y Rheoliadau Lles Anifeiliaid terfynol, a gyhoeddwyd ym mis Mawrth 2020. Roedd hyn er gwaethaf addewid i ymgysylltu â’r sector.
“Rwy’n gobeithio y bydd y digwyddiad pwysig hwn ar risiau’r Senedd yn annog Llywodraeth Cymru i edrych eto ar bryderon ynghylch mewnforio milgwn a datblygiad ei hymgysylltiad â’r sector rasio milgwn ynghylch lles. Er lles ein hanifeiliaid anwes, ac fel gwarcheidwaid y tir hwn, mae’n rhaid i bawb ystyried effaith ein gweithgareddau hamdden ar eu lles.
Gall preswylwyr helpu’r elusen drwy wirfoddoli ar gyfer rhai o’r tasgau pwysig fel codi arian, ymweld â darpar fabwysiadwyr, ynghyd â chludo a maethu cŵn. Am ragor o wybodaeth, ewch i: greyhoundrescuewales.co.uk.
DIWEDD
Ffoto: Janet yn cyfarfod cynrychiolwyr a chŵn o’r elusen