Ar ôl gofyn am ddatganiad gan Lywodraeth Cymru ar effaith gweinyddu’r cyfyngiadau Covid-19 ar y boblogaeth hŷn, mae Jane Finch-Saunders AS – yr Aelod o’r Senedd dros Aberconwy - wedi mynd ati i hyrwyddo’r ffordd y gall preswylwyr wneud cais am Bas Covid GIG papur. Daw hyn yn dilyn pentwr o ohebiaeth ynghylch y mater.
Ddoe, ar ôl derbyn ymateb gan Fwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr ynghylch maint y ciwiau y tu allan i ganolfannau brechu yn yr etholaeth, gofynnodd Janet i breswylwyr “gyrraedd yn brydlon” i ganolfannau brechu lleol, yn hytrach na chyrraedd yn gynnar. Yn eu llythyr ymateb, pwysleisiodd y Bwrdd Iechyd y gall absenoldeb staff diweddar a phresenoldeb gofalwyr ychwanegu at y pwysau sy’n achosi ciwiau.
Gall preswylwyr gael gafael ar bas papur drwy ffonio 0300 303 5667.
Yn rhoi sylwadau ar bryderon am hygyrchedd, dywedodd Janet:
“Yn ddiweddar, wrth adleisio’r pryderon am gydraddoldeb yr wyf wedi’u crybwyll dro ar ôl tro ynghylch gweithredu Pas Covid y GIG, mae Comisiynydd Pobl Hŷn Cymru wedi tynnu sylw at y ffaith mai dim ond 40% o bobl dros 75 oed yng Nghymru sy’n defnyddio’r rhyngrwyd, o’i gymharu â 98% o bobl 16-44 oed. Mae hyn yn golygu bod cael gafael ar y pas digidol yn llawer anoddach os ydyn nhw am gymryd rhan mewn gweithgareddau hamdden.
“Yr wythnos diwethaf, mi wnes i rannu pryderon eto gan breswylwyr gyda Llywodraeth Cymru a oedd yn dweud nad oedd y rhif i ofyn am bas papur yn gweithio bob tro. Yn wir, yn ddiweddar ceisiodd fy swyddfa gysylltu dair gwaith, dim ond i dderbyn neges yn datgan na ellid cysylltu â’r gwasanaeth. Mae hyn yn amlwg yn gwbl annerbyniol.
“O ystyried hyn, law yn llaw â’r ffaith bod y galwadau hyn yn costio rhwng 2c a 40c y funud fel arfer, mae’n ymddangos yn wirion bost y bydd tâl yn cael ei godi ar y preswylwyr hynny sy’n mynd allan o’u ffordd i gydymffurfio â rheoliadau Llywodraeth Cymru.
“Mi wna’i barhau i erfyn am ddatganiad ar effeithlonrwydd a gweithrediad y system archebu pasys ar y ffôn ac a oes ffordd o ddileu unrhyw daliadau am y galwadau hyn. Yn y cyfamser, anogaf breswylwyr i gysylltu os ydyn nhw’n wynebu unrhyw broblemau.”
Cynghorir preswylwyr sy’n profi problemau i gysylltu â swyddfa’r Aelod drwy e-bostio Janet.Finch-Saunders@Senedd.Cymru neu ffonio 01492 871198.