Mewn ymweliad â distyllfa newydd cwmni Penderyn yn Llandudno heddiw, cyfarfu'r Aelod o’r Senedd dros Aberconwy - Janet Finch-Saunders AS - â Dafydd Pesic-Smith, Rheolwr Safle'r Ddistyllfa, i drafod ei gynlluniau cadarnhaol i gefnogi twristiaeth a chynhyrchu diodydd lleol. Gwirod barlys mawn wedi'i gynhyrchu'n lleol fydd canolbwynt y ddistyllfa newydd. Cafodd ei agor ym mis Mai yn dilyn trawsnewidiad gwerth £5 miliwn i'r Hen Ysgol restredig Gradd II.
Cynhaliwyd yr ymweliad heddiw wedi i Janet groesawu Stephen Davies, Prif Weithredwr Distyllfa Penderyn, i ystâd y Senedd fis diwethaf. Mae teithiau cyhoeddus o amgylch y lleoliad wedi cychwyn fis diwethaf, a'r nod yw denu 80,000 y flwyddyn. Mae'r daith gyhoeddus yn gorffen yn yr ystafell flasu lle gall pobl gael llymaid o wisgi neu ddau.
Wrth siarad am y distyllfa ar ôl ei hymweliad, dywedodd Janet:
“Mae gan yr Hen Ysgol le balch yn ein hanes lleol, ers cael ei hadeiladu yn y 1880au a dod yn gartref i archifau cyngor Conwy yn ddiweddarach. O'r hyn a welais heddiw, ac yn dilyn gwaith adnewyddu rhyfeddol Penderyn ar yr adeilad, bydd stori a threftadaeth y lle hwn yn mynd o nerth i nerth yn y blynyddoedd i ddod.
“Mae'n hynod gyffrous y bydd pobl, mewn rhyw dair blynedd a hanner, yn mwynhau gwirod newydd a gynhyrchwyd yn un o brif gyrchfannau glan môr Cymru. Gyda brag mawnaidd, bydd hefyd yn defnyddio'r dŵr o gronfa ddŵr ger hen oleudy'r Gogarth.
“Anghofiwch am ddarn o roc, dyma Llandudno mewn potel ac rwy'n edrych ymlaen at ei flasu unwaith y caiff sêl bendith y prif ddistyllwr. Gyda theithiau cyhoeddus bellach ar waith, does dim amheuaeth y bydd yn dod yn ganolfan ragoriaeth i Gymru, gan helpu i ddenu ymwelwyr ac o fudd i'n busnesau llety a lletygarwch.
“Mae'r ffaith eu bod hefyd yn cefnogi cais Conwy i fod yn Ddinas Ddiwylliant nesaf y DU hefyd yn sail i'w buddsoddiad hirdymor yn ein cymuned. Hoffwn ddiolch i Stephen Davies, Dafydd Pesic-Smith a'r tîm am eu caredigrwydd wrth drefnu'r daith heddiw - dymuniadau gorau iddynt ar gyfer eu blwyddyn agoriadol."
DIWEDD
Nodiadau i Olygyddion:
- Agorodd Siop y Ddistyllfa ddydd Llun 17 Mai 2021. Mae teithiau'r ddistyllfa ar gael ond maen nhw wedi'u cyfyngu dros dro i 8 o bobl fesul taith (yn hytrach na'r 20 arferol), ac yn cynnwys llawer o ffactorau ymbellhau cymdeithasol ac ati.
- Rhagor o wybodaeth yn www.penderyn.cymru
Llun: Janet Finch-Saunders AS gyda Dafydd Pesic-Smith a'i mab, Adam.