Ar ôl rhannu pryderon etholwyr am gyflwr truenus Clinig Cof Llandudno, mae'r Aelod o'r Senedd dros Aberconwy – Janet Finch-Saunders – wedi croesawu cynlluniau i wneud gwelliannau i'r cyfleuster.
Mewn ymateb i'w gohebiaeth yn codi pryderon, mae Ms Jo Whitehead, Prif Weithredwr Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr (BIPBC), wedi amlinellu bod y Bwrdd Iechyd yn bwriadu gwneud gwelliannau tymor byr a hirdymor i'r Clinig Cof er mwyn sicrhau ei fod yn cyrraedd y safon.
Wrth sôn am y newyddion dywedodd Janet:
“Mae Clinig Cof Llandudno yn darparu gwasanaeth hanfodol i gannoedd o gleifion ar draws Aberconwy a'r Gogledd. O ystyried hyn, mae'n gwbl annerbyniol bod y rhan bwysig hon o'n darpariaeth gofal iechyd leol wedi cael mynd i gyflwr mor druenus.
“Ar ôl ysgrifennu at Fwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr er mwyn codi'r pryderon hyn, rwy'n falch iawn o weld bod y Bwrdd Iechyd yn mynd ati i fynd i'r afael â'r sefyllfa hon, gan gynnwys newid y ffenestri i gyd fesul cam erbyn diwedd Mehefin 2022.
“Er fy mod yn croesawu'r cadarnhad o'r gwaith hwn, rwy'n gobeithio'n fawr mai dyma gam cyntaf yr ymdrechion i uwchraddio'r cyfleusterau meddygol ledled Aberconwy er mwyn sicrhau bod gan drigolion fynediad i'r cyfleusterau meddygol o ansawdd uchel y maent eu hangen ac yn eu haeddu.”