Ar ôl codi pryderon gyda Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr ynglŷn â'r ciwiau y tu allan i ganolfannau brechu yn ystod tywydd gaeafol, mae Janet Finch-Saunders, yr Aelod o’r Senedd dros Aberconwy, wedi annog trigolion i beidio â chyrraedd canolfannau yn rhy gynnar er mwyn helpu i atal ciwio diangen.
Daw hyn wrth i Janet gael ateb ffurfiol gan y Bwrdd Iechyd sy'n pwysleisio bod gofynion cadw pellter cymdeithasol yn golygu na allant ganiatáu i gynifer o bobl ag y byddent yn dymuno aros am eu hapwyntiad dan do. Dywed y Bwrdd Iechyd fod gan bob lleoliad asesiad iechyd a diogelwch, a bod y sefyllfa'n cael ei monitro'n barhaus.
Mewn ymateb, dywedodd Janet:
“Gyda'r etholaeth wedi'i tharo gan dywydd gaeafol a stormus yn ddiweddar, a'r tymheredd ar fin gostwng ymhellach, rwy'n derbyn mwy a mwy o lythyrau gan etholwyr sy'n poeni am yr holl giwiau hir y tu allan i ganolfannau brechu.
“Ar ôl ysgrifennu at y Bwrdd Iechyd ar y mater hwn, rwy'n croesawu cadarnhad y bydd staff yn ceisio lleihau'r gofynion pellter cymdeithasol a ddefnyddir yn y lleoliad o'r 2m arferol i 1.5m pan fydd y tywydd yn wael. Bydd hyn yn sicrhau y bydd mwy o bobl yn gallu aros dan do cyn cael eu brechu.
“Os yw'r etholwyr yn poeni am y tymheredd y tu mewn i ganolfan frechu, gallant ofyn i staff gau rhai ffenestri hefyd. Mae cyfathrebu'n hollbwysig, ac rwyf wedi cael sicrwydd bod ein staff rhagorol wrth law i helpu i wneud yr ymweliad â chanolfan mor ddiogel â phosibl.
“Fodd bynnag, er bod cyrraedd yn gynnar fel arfer yn arwydd o gwrteisi, rydym yn annog preswylwyr i gyrraedd ar yr amser cywir ar gyfer eu hapwyntiad yn lle dod yn gynnar er mwyn lleihau'r cyfnod aros allan yn yr awyr agored.
“Wrth i'r gwaith o gyflwyno'r brechlyn atgyfnerthu gynyddu, rwy'n barod i gynnig cymorth i'r holl etholwyr a rhanddeiliaid sy'n gysylltiedig â'r gwaith."
DIWEDD
Nodiadau i Olygyddion:
- Amgaeaf gopi o'r llythyr a dderbyniwyd.
Llun: gan Daniel Schludi ar Unsplash