Ar ôl agor arddangosfa newydd A Jewish History of Llandudno yn swyddogol yn Amgueddfa Llandudno, bu Janet Finch-Saunders, yr Aelod o'r Senedd dros Aberconwy, yn sôn am ei llawenydd yn sgil y gwaith oedd ar y gweill i i ddadorchuddio un o hanesion cudd y dref.
Ymhell yn ôl yn Oes Fictoria, yn sgil y cyfleoedd masnachol yr oedd Llandudno yn eu cynnig wrth ddod yn gyrchfan boblogaidd ar gyfer gwyliau, denodd hyn lawer o fasnachwyr Iddewig a datblygodd y dref yn gyrchfan gwyliau poblogaidd hefyd i'r gymuned Iddewig.
Wrth siarad ar ôl agor yr arddangosfa, dywedodd Janet:
“Roedd yn anrhydedd cael gwahoddiad i agor yr arddangosfa amserol hon yn swyddogol, sy’n llwyddo mor hyfryd i roi ffocws ar rôl bwysig y gymuned Iddewig yn hyrwyddo Llandudno fel Brenhines cyrchfannau gwyliau Cymru.
“Mae'r arddangosfa hon yn dangos yn gwbl briodol bod y Gogledd yn gyfoeth o wahanol unigolion a chymunedau sydd wedi dewis ymgartrefu yn yr ardal; rhai yn ffoi rhag erledigaeth, eraill yn chwilio am well cyfleoedd economaidd neu am gael y profiad o fyw yn rhywle newydd.
“Fy ngobaith i yw y bydd yr arddangosfa hon sydd wedi ei lleoli yn yr amgueddfa aml-gyfnod hon, yn sbarduno pobl i fynd ati i archwilio'r hanes hwn o gymeriadau a straeon amrywiol. Rwy’n annog trigolion ac ymwelwyr fel ei gilydd i fynd i weld yr arddangosfa a dilyn y daith gerdded drwy ein tref arbennig iawn i gael blas o'r hanes.
“Hoffwn dalu teyrnged i ymdrechion Dawn a'i thîm. Yn sgil eu cyfraniad at yr ymchwil, maent yn parhau i sicrhau bod Amgueddfa Llandudno wrth wraidd ein cymuned. Roedd yn hyfryd gweld eu gardd fioamrywiaeth wych hefyd!
“Hoffwn longyfarch Prosiect Cerdded a Darganfod Menter Fachwen, Prifysgol Bangor a Chronfa Bangor hefyd am eu gwaith ar yr arddangosfa a'r daith gerdded ehangach, gan gynnwys ymdrechion unigol yr Athro Nathan Abrams a Gareth Roberts.”
Dros y blynyddoedd, mae'r gymuned Iddewig wedi bod yn rhan enfawr o ddatblygiad yr ardal, o’r economi, y diwylliant, y bywyd gwleidyddol ac o’r llwyddiannau yn y byd chwaraeon. Mae'r arddangosfa newydd hon, a gynhyrchwyd gan 'Prosiect Cerdded a Darganfod Menter Fachwen' ac a gafodd ei hariannu a'i chynhyrchu mewn partneriaeth â Phrifysgol Bangor a Chronfa Bangor, yn ddathliad o'r dreftadaeth honno.
Mae cyfres o luniau gan Jim Tan, ffotograffydd o Ogledd Cymru, yn cael eu harddangos ac maen nhw'n dangos cysylltiad cymunedau Haredi â Llandudno. Mae Sefydliad Harold Hyam Wingate hefyd wedi cyfrannu at ddehongliad ychwanegol ac archwiliad parhaus o gymuned Iddewig Llandudno.
Wrth sôn am yr arddangosfa, dywedodd yr Athro Nathan Abrams o Brifysgol Bangor:
“Rwy’n falch iawn bod Amgueddfa Llandudno yn cynnal ein harddangosfa sy'n rhan o ymdrech ehangach i gasglu, cadw a hyrwyddo hanes Iddewig lliwgar y gogledd. Cewch glywed rhagor am hyn maes o law.”
Dywedodd Dawn Lancaster, Cyfarwyddwr yr Amgueddfa:
“Rwy’n ddiolchgar i Gareth Roberts o Fenter Fachwen am ei waith anhygoel yn crynhoi’r holl wybodaeth i greu taith gerdded sy'n cyfateb mor hyfryd â’r byrddau arddangos, a'r Athro Abrams sydd wedi gweithio'n ddiflino i ddatgelu hanes a phrofiadau Iddewon yn Ngogledd Cymru.”
DIWEDD
Nodiadau i Olygyddion:
- Mae rhagor o wybodaeth ar gael yn Natganiad i'r Wasg yr Amgueddfa, sydd wedi'i atodi.
Ffotograff: Janet yn yr arddangosfa gyda'r Cynghorydd Philip Evans (un o ymddiriedolwyr yr Amgueddfa) a Dawn Lancaster (Cyfarwyddwr yr Amgueddfa).