Skip to main content
Banner image for Janet Finch-Saunders MS/AS

Janet Finch-Saunders MS/AS

ABERCONWY

Main navigation

  • Home/Hafan
  • Janet
  • News/Newyddion
  • Senedd Cymru
  • Contact/Manylion Cyswllt

Allwn ni ddim gadael i’r COVID-19 gau’r llenni ar sector y celfyddydau yng Nghymru

  • Tweet
Tuesday, 9 June, 2020
COVID-19

Heddiw (9 Mehefin), mae Janet Finch-Saunders AS - Aelod o’r Senedd dros Aberconwy - wedi annog Llywodraeth Cymru i adolygu beth arall y gall ei wneud i gefnogi sector celfyddydau Cymru. Daw ei galwad wrth i theatrau Cymru rybuddio eu bod angen mwy o gefnogaeth ariannol i oroesi. Mae cynrychiolwyr o’r sector yn dweud bod y pandemig COVID-19 wedi eu gadael heb lawer o obaith i ailagor mewn ffordd ariannol hyfyw yn y misoedd nesaf.

Yn y Gogledd, lle mae Venue Cymru wedi’i addasu yn ysbyty dros dro, credir y gallai’r pandemig darfu ar y celfyddydau yn lleol ymhell y tu hwnt i’r cyfnod presennol. Mae canslo’r Eisteddfodau a Gŵyl Cerddoriaeth Glasurol Conwy wedi gadael llawer o gerddorion llawrydd lleol allan o waith hefyd. Maent yn mynegi pryderon ynglŷn â diffyg difrifol o gyfleoedd i berfformio gan fod cymaint o sioeau, priodasau a mordeithiau wedi’u canslo.

Wrth siarad am effaith COVID-19 ar y sector, dywedodd Janet:

“Mae’r pandemig COVID-19 wedi gwneud niwed sylweddol i sector y celfyddydau yng Nghymru, gan roi ein theatrau mewn perygl difrifol o gau a gadael llawer o unigolion dawnus allan o waith.

“Mae creadigrwydd a’r celfyddydau yn sylfeini pwysig ar gyfer addysg a hyrwyddo llesiant. Maent yn parhau yn ganolog i economi’r Gogledd, ac yn gwneud cyfraniad pwysig iawn at hybu twristiaeth i’n rhanbarth hyfryd.

“Mae’r celfyddydau hefyd yn hollbwysig i ddiogelu diwylliant Cymraeg. Mae gennym gyfrifoldeb i rannu ein treftadaeth a’n hunaniaeth, gan sicrhau bod ein hiaith yn goroesi i wasanaethu cenhedlaeth newydd o bobl ifanc.

“Rwy’n annog Llywodraeth Cymru i adolygu pa gymorth priodol a hirdymor y gall ei gynnig i’r sector cymhleth hwn. Allwn ni ddim gadael i COVID-19 gau’r llenni ar y cyflogwyr hanfodol hyn yng Nghymru.”

DIWEDD

Llun: Gan Kyle Head, UnSplash.

  • Local News

You may also be interested in

Janet

First Minister Urged to Keep to his word and Make Business Support “Immediately available”

Wednesday, 12 May, 2021

Janet Finch-Saunders, Member of the Senedd for Aberconwy, has written to Mark Drakeford MS, First Minister, urging him to keep to his word and make business support immediately available.

 

Show only

  • Articles
  • Assembly News
  • Local News
  • Media
  • Opinions
  • Senedd News
  • Speeches
  • Westminster News

Janet Finch-Saunders MS/AS Aberconwy

Footer

  • About RSS
  • Accessibility
  • Cookies
  • Privacy
  • About/Am Janet Finch-Saunders
  • Polisi Diogelu Data a Phreifatrwydd
Promoted by Mostyn Jones on behalf of Janet Finch-Saunders, both of 29 Madoc Street, Llandudno, LL30 2TL

Neither the Welsh Parliament, nor Janet Finch-Saunders are responsible for the content of external links or websites. The costs of this website have been met by the Senedd Commission from public funds | Nid yw Senedd Cymru na Janet Finch Saunders yn gyfrifol am gynnwys lincs na gwefannau allanol. Mae Comisiwn y Senedd wedi talu costau'r wefan hon o arian cyhoeddus.

Copyright 2021 Janet Finch-Saunders MS/AS Aberconwy. All rights reserved.
Powered by Bluetree