Mewn cyfraniad eang i drafodaeth y Ceidwadwyr Cymreig ar gyfyngiadau Covid-19, mae Janet Finch-Saunders AS - Aelod o’r Senedd dros Aberconwy - wedi erfyn ar Lywodraeth Cymru i gyflwyno cynllun positif, hirdymor er mwyn i fusnesau a chymunedau lleol allu ailgodi a ffynnu.
Defnyddiodd Mrs Finch-Saunders ei chyfraniad i ofyn am gymorth pellach i’r busnesau hynny sydd wedi eu heffeithio gan gyfyngiadau Omicron, gan gynnwys nodi’n glir yr angen am eglurder ynghylch pam fod angen i fusnesau ddarparu tystiolaeth ar hyn o bryd o ostyngiad o 50% mewn incwm. Mewn gwirionedd, gall gostyngiad llawer llai fod yn niweidiol iawn yn aml.
Ddoe, denodd Janet ymrwymiad gan y Prif Weinidog i “edrych ar y mater penodol” o feini prawf cyllid ar gyfer eiddo llety hunanddarpar. Ar hyn o bryd, ni fydd busnesau yn gymwys am y cymorth grant a gynigir oni bai bod yr eiddo hunanddarpar ar gyfer 30 pobl neu fwy, neu fod y llety hunanddarpar yn cael ei ystyried yn ganolfan addysg awyr agored. Ar hyn o bryd, nid oes gan Awdurdodau Lleol bwerau disgresiwn ynghylch y penderfyniad hwn.
Yn rhoi sylwadau ar ei chyfraniad, dywedodd Janet:
“Yn drist iawn, mae Cymru yn parhau yn wahanol i eraill ar faterion polisi iechyd cyhoeddus. Er gwaetha’r dystiolaeth wyddonol fanwl o Dde Affrica, mae’n parhau’n bryder mawr i sawl busnes bod Gweinidogion Llywodraeth Cymru wedi gorymateb i Omicron, gan achosi poen a phryder sylweddol.
“Mae’r amserlen arfaethedig bresennol yn golygu y bydd gan ein busnesau lletygarwch dan do bythefnos pellach o gyfyngiadau, gan yrru’r bunt Gymreig dros y ffin i Loegr fel y gwelwyd Nos Galan. Amcangyfrifodd Prif Weithredwr Cymdeithas Cwrw a Thafarndai Cymru, ar gyfartaledd, bod tafarndai wedi colli £16,000 dros gyfnod presennol y cyfyngiadau.
“Mae nifer uchel o bobl yn canslo yn parhau i amharu ar ein sectorau lletygarwch a thwristiaeth. Er ei bod yn amlwg bod ymddygiad defnyddwyr wedi newid, mae’r pwysau digynsail sy’n cael ei roi ar ein busnesau yn parhau i roi bywoliaethau a chyfleoedd cyflogaeth yn y sector mewn perygl.
“Dyma pam fy mod wedi erfyn ar Lywodraeth Cymru i ystyried sicrhau bod mwy o arian ar gael ar gyfer y busnesau sydd wedi’u heffeithio yn sgil yr ymateb i Omicron, yn enwedig o ystyried bod Llywodraeth y DU wedi darparu £270 miliwn ychwanegol ym mis Rhagfyr ar ben y swm a gyhoeddwyd yng Nghyllideb yr Hydref.”
Roedd Mrs Finch-Saunders yn siarad ar ôl clywed cadarnhad bod dros 1.8 miliwn o ddosau atgyfnerthu a thrydydd dos wedi’u rhoi yng Nghymru, a dywedodd “nawr yw’r amser i hybu hyder busnesau a’r cyhoedd ar ôl dwy flynedd o gyfyngiadau.”
Roedd ymchwil gan University College London i SAGE ym mis Rhagfyr yn awgrymu bod pobl ddwywaith yn fwy tebygol o ddal COVID wrth siopa na phan maent mewn tafarn neu sinema pan nad oes cyfyngiadau ar waith.
DIWEDD