Mae’r pandemig wedi rhoi pwysau ariannol aruthrol ar hosbisau Cymru, sy’n dibynnu ar roddion gan y cyhoedd am dros 90% o’u cyllid. Wrth nodi Wythnos Hosbisau Plant, mae Janet Finch-Saunders AS – yr Aelod o’r Senedd dros Aberconwy - wedi galw am ymrwymiad i gyflwyno setliad cyllid teg a chynaliadwy i hosbisau Cymru.
Mae hosbisau plant yng Nghymru yn derbyn llai na 10% o’u cyllid blynyddol gan Lywodraeth Cymru – o’i gymharu â’r rhai yn Lloegr, Gogledd Iwerddon a’r Alban sy’n derbyn 21%, 25% a 50% o’u cyllid gan eu Llywodraethau yn y drefn honno.
Mewn Cwestiwn Ysgrifenedig i’r Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol, gofynnodd Janet:
“A wnaiff y Gweinidog gadarnhau amserlen Llywodraeth Cymru ar gyfer cyflwyno setliad cyllid teg a chynaliadwy i hosbisau Cymru, er mwyn iddynt allu cynnig rhagor o gymorth a gofal i blant â chyflyrau sy’n cyfyngu ar fywyd yng Nghymru?”
Gan gyfeirio’n glir yr angen am setliad cyllid newydd, dywedodd Janet:
“Rydym yn ffodus tu hwnt bod gennym gyfleusterau gofal lliniarol rhagorol ledled Aberconwy, gyda Thŷ Gobaith a Hosbis Dewi Sant wedi ymrwymo i ddarparu gofal a chymorth amhrisiadwy i unigolion â chyflyrau sy’n cyfyngu ar fywyd, yn ogystal â’u ffrindiau a’u teuluoedd.
“Fodd bynnag, mae sgyrsiau gyda’r sector wedi dangos yn glir bod llawer o hosbisau yn dal i boeni am eu dyfodol a’u gallu i ddiwallu anghenion plant a theuluoedd â chyflyrau sy’n cyfyngu ar fywyd, oni bai eu bod yn gallu cael setliad ariannol mwy cynaliadwy.
“Dyma gwestiwn brys sydd angen atebion hirdymor. Gyda drysau siopau elusennol ar gau a llawer o ddigwyddiadau codi arian wedi’u canslo, er haelioni trigolion lleol, mae ein hosbisau wedi dweud yn gwbl glir nad yw rhoddion cystal â rhai’r blynyddoedd blaenorol.
“Mae gan Gymru gyfle heb ei ail yn awr i greu gwlad sy’n drugarog. Rwy’n pwyso ar Lywodraeth Cymru i adeiladu ar eu hymrwymiad llac yn Rhaglen Lywodraethu’r wythnos diwethaf a darparu setliad cyllid newydd a fydd yn gweithio i hwyluso gweithgarwch gofalgar gan eraill.”
DIWEDD
Nodiadau i Olygyddion:
- Am ragor o wybodaeth am gyllid, cliciwch yma.
Llun: Janet Finch-Saunders AS