Wrth adolygu sut mae Llywodraeth Cymru yn monitro gwerth am arian ac effeithiolrwydd gwariant ar ddeddfwriaeth, mae Janet Finch-Saunders, AS Aberconwy, wedi annog y weinyddiaeth ddatganoledig i ddargyfeirio arian a glustnodwyd ar gyfer gweithredu Diddymu Amddiffyniad Cosb Resymol, tuag at gyflwyno gwasanaethau iechyd meddwl i bobl ifanc.
Cadarnhaodd ateb Rhyddid Gwybodaeth diweddar i'w swyddfa fod Llywodraeth Cymru wedi gwario £1,650,098 ar ddatblygu a chyflwyno Deddf Plant (Diddymu Amddiffyniad Cosb Resymol) (Cymru) 2020 rhwng Mai 2016 a 4 Ionawr 2022.
Roedd Memorandwm Esboniadol y Bil yn dweud y byddai'r opsiwn a ffefrir, sef deddfu i ddileu'r amddiffyniad o gosb resymol yng Nghymru, yn costio rhwng chwech ac wyth miliwn o bunnoedd i gyd.
Wrth ymateb y tu allan i'r Siambr, dywedodd Janet:
“Rwy'n gwrthwynebu cyflwyno deddfwriaeth ddiangen. Mae'n hollol annerbyniol bod dros filiwn a hanner o bunnoedd o arian trethdalwyr wedi'i wario ar yr ymyriad diangen hwn sy'n diystyru'r amddiffyniadau sydd eisoes ar waith mewn modd sy'n busnesu'n ormodol ym mywyd teuluol.
“Bydd adran un y Ddeddf hon yn dod i rym ym mis Mawrth. Ond, ers i'r ddeddfwriaeth gael Cydsyniad Brenhinol, mae Covid-19 wedi taro ein cenedl. Mae wedi cael effaith ddifrifol ar iechyd meddwl plant, ac mae Comisiynydd Plant Cymru wedi gorfod pwysleisio nad oes lleoedd addas i bobl ifanc mewn argyfwng iechyd meddwl.
“O gofio'r pryderon nad oes canolfannau argyfwng iechyd meddwl penodol yng Nghymru ar gyfer pobl ifanc ar hyn o bryd, rwyf heddiw wedi gofyn i'r Gweinidog Cyllid gydweithio â'r Dirprwy Weinidog Gwasanaethau Cymdeithasol i adolygu effeithiolrwydd y gwariant ar y Ddeddf hon a cheisio dargyfeirio rhywfaint o'r cyllid hwnnw i wasanaethau iechyd meddwl rheng flaen i'r rhai mewn angen.
“Mae'n rhaid i ni flaenoriaethu cymorth i'r plant hynny sydd, heb unrhyw fai arnyn nhw eu hunain, yn dioddef oherwydd yr ymateb i'r pandemig.”
DIWEDD
Llun: Janet Finch-Saunders AS