Wrth barhau i bwyso ar Lywodraeth Cymru i weithredu ar gamau i warchod natur ledled parth 200 milltir forol Cymru, mae'r Aelod o'r Senedd dros Aberconwy – Janet Finch-Saunders AS – wedi annog Gweinidog y Llywodraeth i sicrhau amserlen gadarn i ddiwygio anghysondeb deddfwriaethol sy'n peri gofid.
Yn ystod y Pwyllgor Newid Hinsawdd yr wythnos diwethaf, tynnodd Mrs Finch-Saunders sylw at y ffaith bod anghysondeb rhwng diffiniad adran 158 yn Neddf yr Amgylchedd (Cymru) 2016 sy'n rhoi cyfrifoldeb ar Cyfoeth Naturiol Cymru i hyrwyddo rheoli adnoddau naturiol yn gynaliadwy hyd at 12 milltir forol a chyfrifoldeb cyfreithiol ehangach Llywodraeth Cymru dros gadwraeth natur ledled parth 200 milltir forol Cymru.
Wrth sôn am ei galwad i weithredu, dywedodd Janet:
“Er bod ateb diweddar i Gwestiwn Ysgrifenedig wedi nodi y bydd Llywodraeth Cymru yn chwilio am gyfle i ddiwygio'r ddeddfwriaeth yn y blynyddoedd i ddod, pwysleisiodd llythyr Cyswllt Amgylchedd Cymru i'r Prif Weinidog yr wythnos diwethaf yr angen i roi mwy o flaenoriaeth i adfer bywyd gwyllt morol.
“Er mwyn sicrhau bod y maes polisi hollbwysig hwn yn parhau i fod yn flaenoriaeth wleidyddol, roeddwn i'n falch o fod wedi annog y Gweinidog i egluro pa ymgysylltu mae Llywodraeth Cymru wedi ymgymryd ag ef i sicrhau amserlen gadarn i ddiwygio'r anghysondeb deddfwriaethol hwn.
“Er fy mod yn croesawu'r ffaith bod y Gweinidog yn trin y gyfraith fel pe bai'n cyfeirio at 200 milltir forol yn hytrach na deuddeg, nid oes rheswm pam na all gyflwyno deddfwriaeth y tymor hwn i gywiro'r anghysondeb cyfreithiol.”
Y llynedd, llofnododd Janet addewid MCS UK i ddiogelu moroedd Cymru. Fel Gweinidog yr Wrthblaid dros Newid Hinsawdd, mae Janet wedi bod yn galw ar Lywodraeth Cymru i flaenoriaethu moroedd a reolir yn dda fel ffordd o roi hwb i'r 'economi las', gan alw am gyflwyno Cynllun Datblygu Morol.
DIWEDD
Ffotograff: Janet Finch-Saunders AS