Mae Janet Finch-Saunders, Aelod o’r Senedd Aberconwy, wedi ysgrifennu at Mark Drakeford AS, y Prif Weinidog, yn ei annog i gadw at ei air a sicrhau bod cymorth ar gael i fusnesau ar unwaith.
Daw’r llythyr yn sgil y cyhoeddiad diweddar gan y Prif Weinidog bod “bod Gweinidogion wedi gwneud penderfyniad ar unwaith i ryddhau cyllid i gefnogi busnesau y mae'r cyfyngiadau'n effeithio arnynt”.
Wrth hyrwyddo busnesau Aberconwy, dywedodd Janet:
“Tra bod datganiad i’r wasg y Prif Weinidog yn honni bod penderfyniad wedi’i wneud ar unwaith i ryddhau cyllid, mae’r un datganiad yn honni na fydd y gwiriwr cymhwysedd yn agor tan 17 Mai, ac na ellir gwneud ceisiadau ar gyfer cyllid hyd ddiwedd y mis.
“Yna, bydd angen i ni ystyried amser asesu cais amhenodol, a allai weld busnesau yn Aberconwy yn aros mis cyfan o ddiwrnod yr etholiad i weld achubiaeth ariannol angenrheidiol.
“Mae pob cymorth yn hollbwysig, ond fe wnaeth y gyfran ddiwethaf o gyllid orffen mwy na mis yn ôl, felly rwyf wedi ysgrifennu at y Prif Weinidog i ofyn iddo gadw at ei air, sicrhau bod cymorth busnes ar gael ar unwaith, a’i fod yn cael ei ôl-ddyddio i ddechrau’r flwyddyn ariannol.”
DIWEDD
Nodiadau i Olygyddion: